31.3.05

Contractau canolog

Dyna sy'n cael ei gynnig gan Moffett a Pickering, meddai'r Mule heddiw.

Iawn, byddai mwy o rym gan yr Undeb o ran cael y chwaraewyr ar gyfer y garfan genedlaethol, ond mae hyn yn bodoli eisoes. Byddai unrhyw hunaniaeth a grym sydd gan y rhanbarthau yn cael ei golli, wrth i chwaraewyr gael eu gwthio o gwmpas heb unrhyw reolaeth ar eu gyrfaoedd eu hunain. Byddai pob rhanbarth yn cael ei gwanhau, yn hytrach na'u cryfhau, a dim mantais i ranbarth sy'n cynnal ei busnes mewn ffordd ofalus, ddarbodus. Oes rhyfedd mai Casnewydd sy'n cefnogi hyn fwyaf? Cyfle rhagorol iddyn nhw lenwi'r garfan heb orfod talu.

Beth am iddyn nhw ganolbwyntio ar greu strwythur dda sy'n creu dilyniant drwy'r grwpiau oedran hyd at y tim cenedlaethol? Beth am fuddsoddi yn y clybiau yn yr Uwch Adran, sef y fagwrfa ar gyfer ser y dyfodol? Ceisio cael rheolaeth lwyr mae'r Undeb a diddymu grym unrhyw un arall, nid ceisio gwella rygbi Cymru.

30.3.05

Dafydd i aros gyda'r Sgarlets

Felly mae BBC Cymru'r Byd yn ei ddweud. Druan bach â fe. Rhaid i rywrai wneud mae'n siwr. Da ei weld yn aros yng Nghymru yn lle cymryd arian Lloegr neu Ffrainc

Ar nodyn bach yn wahanol, gwych yw sylwi ar y safon a'r gystadleuaeth yn rheng ol Cymru dyddiau hyn. Roedd Dafydd wedi bod yn rhagorol yng ngemau'r hydref, a fe ddechreuodd yn erbyn Lloegr cyn cael ei anafu. Heb olygu unrhyw amharch i'r boi, naethon ni ddim gweld ei eisiau fe ormod, do fe? Y dewis cyntaf ar hyn o bryd yw R Jones, M Owen a M Williams, ond drychwch ar y chwaraewyr sy'n ysu am le hefyd.

D Jones, Popham, Pugh, Bater, Lloyd, Sowden-Taylor, Thomas...

29.3.05

'Arbenigwyr' chwerw

Iawn, rwy' wedi trafod hyn o'r blaen, ond mae'n wirioneddol anhygoel faint o'r arbenigwyr rygbi honedig hyn sy'n ceisio dilornu llwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Bob tro y bydda' i'n mynd i wefan drafod Gwlad neu Rygbi Cymru y dyddie hyn, bydd rhywun wedi postio sylwadau gan lembo Dick Bestaidd yn dweud fod Cymru ond wedi llwyddo achos bod y gwledydd eraill wedi tanberfformio (rhyfedd nad oedden nhw'n dweud hyn pan oedd Cymru'n tanberfformio) neu fod blaenwyr Cymru (oedd yn drech na phob pac arall yn y Bencampwriaeth) yn un gwan.

Cofiwch hyn - Cymru sgoriodd y nifer fwyaf o geisiau, Cymru wnaeth y mwyaf o daclau, Cymru basiodd fwyaf allan o'r dacl, Cymru dorrodd drwy linell amddiffynnol y gwrthwynebwyr fwyaf, dim ond Ffrainc giciodd llai o'r meddiant, Cymru enillodd y mwyaf o 'turnover', Cymru ildiodd y nifer leiaf o giciau cosb (ffynhonnell: Computacentre; argraffwyd yn y Times).

Mae hynny'n profi felly bod blaenwyr Cymru wedi taclo'n rhagorol, wedi dwyn pel y gwrthwynebwyr ac wedi bod yn ddisgybledig yn eu gwaith. Fe gadwodd yr olwyr y bel mewn llaw, gan redeg at y gwrthwynebwyr a dod o hyd i fylchau yn yr amddiffyn drwy eu chwarae medrus.

Ond, meddai'r arbenigwyr, mae'n rhaid bod unrhyw lwyddiant gan unrhyw un heblaw'r 'powerhouses' arferol yn ganlyniad i hud a lledrith y diawliaid Celtaidd 'ma...

23.3.05

Yr oes a fu

Sai'n credu y byddai rheolau iechyd a diogelwch yn caniatau torf debyg i hyn yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer y gem eleni...



Cymru v Iwerddon, 1931 - oddi ar gasgliad Casglu'r Tlysau.

22.3.05

Tîm y Bencampwriaeth

Roedd rhaid dewis un. Dyw hwn ddim yn ddewis swyddogol, ond mae'n well na'r rhan fwyaf sy'n cael eu cynnig gan 'arbenigwyr' papurau newydd Lloegr:

15 Kevin Morgan
Dechrau ar y fainc ond wedi dod mewn i'r tîm a chynnig gwasanaeth gwych. Llinellau rhedeg deallus a chreadigol.

14 Josh Lewsey
Wedi disgleirio mewn tîm gwan, yn amddiffynnol ac yn ymosodol

13 Brian O'Driscoll
Achubodd ei dîm rhag embaras yn erbyn Yr Eidal a bron ag achub y dydd yn erbyn Ffrainc.

12 Gavin Henson
Y gorau o giwed wael yn y safle. Heb wneud llawer yn ymosodol, ond yn aruthrol yn yr amddiffyn, a'i gicio'n rhagorol.

11 Shane Williams
Po fwyaf maen nhw'n ceisio'i atal, y gorau oll mae'n datblygu.

10 Stephen Jones
Wedi dysgu sut mae rheoli gêm ac un arall na ildiodd fodfedd i'r gwrthwynebwyr.

9 Dwayne Peel
Yn dilyn dechrau tawel a phawb yn sôn am Cussiter, fe ddaeth i'r amlwg gyda chwarae craff, deallus.

1 Gethin Jenkins
Sgrymio cadarn a gwaith rhagorol yn y chwarae agored. Un o'r chwaraewyr mwyaf ffit yn y Bencampwriaeth.

2 Fabio Ongaro
Safle arall fu'n broblem i'r chwe gwlad. Ongaro sy'n mynd â hi am ei daflu unionsyth a'i chwarae rhydd.

3 Nicolas Mas
Sgrymiwr cadarn a fu'n drech na chwaraewyr rhagorol fu yn ei erbyn.

4 Paul O'Connell
Er gwaethef ei gamweddau yn erbyn Cymru, fe arweiniodd bac Iwerddon yn rhagorol drwy gydol y Bencampwriaeth.

5 Malcolm O'Kelly
Agos rhwng sawl chwaraewr, gan gynnwys Pelous, Kay, Sidoli, Bortolami a Murray. Rhaid rhoi lle i O'Kelly am ei gysondeb.

6 Serge Betsen
Bu'n byw ar y llinell gamsefyll am ran fwya'r Bencampwriaeth, ond bu'n hynod effeithiol eto. Enghraifft berffaith oedd y ffordd y dygodd y bêl yn Nulyn ar gyfer y cais buddugol.

8 Martin Corry
Brwydr agos arall rhwng Corry ac Owen. Datblygodd Owen (a Taylor) wrthi'r Bencampwriaeth fynd yn ei blaen, ond roedd Corry yn arweiniwr amlwg mewn tîm trafferthus.

7 Martyn Williams
Dim amheuaeth am hyn. Fe wnaeth e bopeth, sgorio ceisiau, arbed ceisiau, chwarae'n ddolen gyswllt, brwydro ar y llawr. Rhagorol.

Eilyddion: Lo Cicero, Byrne, Kay, Owen, Yachvili, Paterson, Murphy

Zinzan yn siarad drwy'i het

Mae chwaraewr chwedlonol y Crysau Duon, Zinzan Brooke, yn dilyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, wedi dewis tîm y Llewod y mae'n credu ddylai wynebu ei wlad. Ac fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, os ydych chi'n dilyn rygbi'n agos, mae Zinzan yn llwyddo i siarad drwy ei het drwy gydol yr erthygl.

Yn gyntaf, mae'r dyfyniad hwn, "Wales are very good as a team but there are individuals elsewhere, some of whom punched below their weight in the Six Nations, who should go to New Zealand on merit." Felly, er gwaethaf y ffaith mai Cymru yw'r tim gorau, mae Zinzan o'r farn bod chwaraewr o Loegr sydd heb chwarae ers blwyddyn a hanner (Wilkinson) yn haeddu'i le o flaen chwaraewr sydd wedi bod yn chwarae'n wych ers dwy flynedd heb unrhyw glod gan yr 'arbenigwyr' o Loegr a Seland Newydd (Stephen Jones). Hefyd, mae chwaraewr (Paterson) a gafodd gem erchyll yn amddiffynnol yn erbyn Lloegr ac a fu'n anghyson uffernol yn ystod y Bencampwriaeth yn haeddu'i le o flaen Morgan, Thomas neu Murphy, na wnaeth unrhyw beth o'i le drwy gydol y Bencampwriaeth. Rhagorol, Zinzan.

Ond, mae Mr Brooke yn cadw'r perlau gorau tan y diwedd. Er gwaethaf dewis Martyn Williams, chwaraewr gorau a mwyaf cyson y Bencampwriaeth o beth wmbredd, mae'n mynd ymlaen i ddweud mai Neil Back, y chwaraewr 36 oed sydd wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol, oedd yn methu cael lle yng ngharfan Lloegr flwyddyn yn ol, fyddai ei ddewis delfrydol. Ac yn ymuno â Back yn y rheng-ol-sydd-wedi-gweld-dyddiau-gwell? Dallaglio wrth gwrs! Wnaeth Zinzan Brooke wylio'r gem rhwng hemisffer y de a hemisffer y gogledd? A welodd e pa mor araf oedd Dilly Dallio?

Dyma ddau chwaraewr sydd yn gwrthod rhoi'r ymroddiad i chwarae rygbi rhyngwladol, sydd ddim wedi chwarae ar y lefel briodol ers misoedd lawer, ond sydd dal eisiau'r clod a'r bri o fod yn rhan o'r Llewod eto. Wel, sori, bois, os nag y'ch chi'n fodlon rhoi tamed bach o ymroddiad ar lefel ryngwladol, peidiwch â mynd i Seland Newydd, fe gewch chi'ch rhwygo'n ddarnau.

Mae Cymru wedi cystadlu ym mhob agwedd ar y chwarae, gyda chwaraewyr ym mhob safle'n dangos eu dawn a'u caledwch. Ond s'dim ots faint mae'n nhw'n trio, mae Zinzan yn dal i gael ei kick-backs gan Undeb Rygbi Lloegr i sgwennu'r cachu 'ma, yn canmol tim Lloegr, y gwannaf ers tro.

21.3.05

Martyn Williams - chwaraewr y bencampwriaeth

Llongyfarchiadau i Martyn Williams am ei fuddugoliaeth gwbl haeddiannol ym mhôl piniwn chwaraewr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Fe bleidleisais i ar ei gyfer e am ei fod wedi bod mor allweddol i'n hymdrech ymysg y blaenwyr ac wedi bod mor gyson. Rwy' wedi bod yn ffan mawr ohono fel chwaraewr ers tro byd am ei ymroddiad a'i chwarae deallus.

Hefyd, yn dyst i'r tîm, roedd pedwar o'r pump uchaf yn Gymry, gyda Shane Williams yn drydydd, Stephen Jones yn bedwerydd, a Dwayne Peel dair pleidlais y tu ôl iddo yn bumed.

20.3.05

Dathlu (amodol)

Wel, ry'n ni wedi'i gwneud hi o'r diwedd. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n gweld Camp Lawn yn fy mywyd, ond, fel y'ch chi'n gwybod mae'n siwr, Cymru yw pencampwyr y Chwe Gwlad, ac wedi ennill y Goron Driphlyg a'r Gamp Lawn. Mae hyn yn sicr, yn fy marn i, yn dyst i'r gwaith caled sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd, i ddod â rygbi Cymru i'r oes fodern. Ond dydyn ni heb wneud hyn ar delerau pawb arall. Dy'n ni heb ddilyn agwedd 'wam-bam' diflas Lloegr ac Awstralia. Ry'n ni wedi bod yn llawer mwy craff a dilyn ein trywydd ein hunain. Allwn ni ddim cystadlu'n gorfforol, felly ry'n ni wedi cadw'r bêl mewn llaw a chwilio am y bylchau yn amddiffynfeydd timau eraill. Ond mae hyn, wrth gwrs, wedi dod law yn llaw â chryfder ac angerdd ein hamddiffyn.

Ond, bydd 'na gwyn yn cael ei anfon at URC cyn hir. Pam oedd rhaid rhoi medalau 'dewrder' i derfysgwyr milwyr a fu'n Irac cyn y gêm? Ydy pethau'n mynd mor wael bod rhaid gwthio pethau lawr ein gyddfau i wneud i ni feddwl 'o mor wych fu'r cyrch ar bobl ddiniwed'? Os ydych chi'n teimlo'r un fath â fi (a fy ffrind Cai), anfonwch lythyr at Undeb Rygbi Cymru Cyf, Llawr Cyntaf, Tŷ Golate, 101 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, Cymru CF10 1GE neu anfonwch neges e-bost at info@wru.co.uk. Mae bod yn gefnogwr Cymru yn golygu rhyddid meddwl.

18.3.05

Ooooo, Capten

Rwy'n rhy nerfus i sgwennu unrhyw beth o werth, felly darllenwch yr erthygl hyfryd hon am Michael Owen yn lle 'ny.

15.3.05

Lloegr yn casau ein llwyddiant

Gweler yr erthygl hon o'r London Evening Standard. Yr union fath o agwedd nawddoglyd ry'n ni'n ei disgwyl pan mae'n nhw'n llwyddiannus, ond pan mae ni sy'n llwyddiannus, am ryw reswm mae'n peri i wen enfawr ymledu ar draws fy ngwyneb.

Ie, dyna ni, mae Henson, y boi wnaeth 'dump tackle' ar Gordon Bulloch, bachwr yr Alban, yn wan yn yr amddiffyn. Ond y frawddeg sy'n coroni popeth yw hon...

"Best and Fitzpatrick believe Ireland's loss to France has been the key match of the Championship for Woodward. Best said: "You have to view the Ireland players as perpetual chokers and I was hugely disappointed with the form shown by locks Malcolm O'Kelly and Paul O'Connell against France.

If the Welsh locks get on to the tour, then they won't know what's hit them against the All Blacks. Fortunately for Woodward, he can call on experienced English players like Mike Tindall, Lawrence Dallaglio, Richard Hill and Neil Back."

Felly, meddai fe, i wrthbwyso gwendid honedig y gwledydd Celtaidd yn y llinell, beth am alw ar ganolwr, rhif wyth, blaenasgellwr ochr dywyll a blaenasgellwr ochr agored (sydd bron yn 37!) i unioni'r broblem!

Rhyfedd sut mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gwbl ddilys ac arferol pan mae Lloegr a Ffrainc yn ennill, ond unwaith i hyn newid, mae'r Bencampwriaeth yn 'quirky'. Ffyliaid llwyr.

11.3.05

Croeso i'r oes fodern

Bydd Cymru o'r diwedd yn cael cyfleusterau modern i ddatblygu chwaraewyr newydd, meddai'r Western Mail. Gyda'r hen system o ddatblygiad drwy'r colegau trydyddol a chlybiau amatur neu led-borffesiynol yn profi'n ddiffygiol, yn sgil diffyg cyllid, mae'n dda gweld rhywbeth fel hyn yn digwydd. Ry'n ni wedi bod yn dioddef am yn rhy hir, yn gweld pethau o'r fath yn cael eu sefydlu yn yr oes fodern yn Lloegr, Awstralia, Seland Newydd ac ati, tra'n methu ymdopi ag oes newydd rygbi.

10.3.05

Gwaharddiad ganja

Mae un o chwaraewyr 'Gwyddelod' Llundain, Pierre Durant, y prop o Dde Affrica, wedi cael ei wahardd am chwe wythnos am brofi'n positif am ganabis. Dyma'r stori ar wefan y BBC.

I ddyfynnu Eddie Izzard, "marijuana helps you win a race of eight million people... who are all dead". Pam mae gwaharddiadau am y cyffur yn dal i fodoli mewn chwaraeon, Duw a ŵyr yn wir.

9.3.05

Cymru v Yr Alban

Dyma fydd tim Cymru i wynebu'r Alban ddydd Sul:

K Morgan
R Williams
T Shanklin
G Henson
S Williams
S Jones
D Peel
G Jenkins
M Davies
A Jones
B Cockbain
R Sidoli
R Jones
M Owen
M Williams

Eilyddion: R McBryde, J Yapp, J Thomas, R Sowden-Taylor, M Phillips, C Sweeney, H Luscombe

Diolchiadau unwaith eto i'r di-gymar I&LM ar Gwlad!

7.3.05

Edi Bytlyr yn y Gardiyn

Erthygl fach ddiddorol gan Eddie Butler yn y Guardian, Rygbi Special. Mae'n gwneud y pwynt pwysig i ni fodloni'n hunain ar fuddugoliaethau ar y maes chwarae tra'n gadael i'r meistri corn, Lloegr, ddwyn yr holl arian o'r Cymoedd ar yr un pryd. A fu rygbi yn sefyll yn ein ffordd yn rhy hir?

Diolch i Chwadan am ddwyn yr erthygl i fy sylw.

Mehrtens i'r Gweilch?

Mae stori yn y Western Mail heddiw yn awgrymu y gallai Andrew Mehrtens, un o fawrion yr oes fodern sydd wedi ennill 70 o gapiau dros Seland Newydd, fod yn symud i ranbarth y Gweilch yn y dyfodol agos.

Er gwaethaf y goblygiadau ariannol a fyddai ynghlwm ag unrhyw gontract gyda Mehrtens, rwy' o'r farn y byddai hyn o fudd i'r Gweilch ac i rygbi Cymru yn gyffredinol. Byddai atyniad chwaraewr o statws Mehrtens yn sicr o lenwi'r coffrau fyddai'n cael eu gwagio gan dâl chwaraewr o'r fath, a byddai presenoldeb cystal chwaraewr â Mehrtens yn cael effaith gadarnhaol ar Matthew Jones, y chwaraewr ifanc sy'n chwarae dros y Gweilch a Chymru dan 21 ar hyn o bryd. 31 oed yw Mehrtens, felly cyfnod datblygu yw hwn i Jones. A beth am y cyfuniad o Mehrtens a Henson dros y Gweilch. Mae'n tynnu dŵr i'r dannedd.

Hefyd, o ran rygbi Cymru a'r Gynghrair Geltaidd, byddai arwyddo chwaraewr o'r fath yn cadarnhau statws ein rhanbarthau a'r gynghrair fel cynghrair a all ddangos y rygbi gorau a denu'r chwaraewyr gorau. Ni ddylai gormodedd o chwaraewyr tramor ymuno â'n rhanbarthau (fel sydd wedi digwydd yn Lloegr, er yr effaith andwyol y mae'n ei gael ar y cyfleoedd i chwaraewyr Seisnig), ond mae'n iawn cael ambell un i ddangos y ffordd.

Maioha, Andrew.

4.3.05

Owen yn gapten

Fel y disgwyliwyd, Michael Owen fydd capten Cymru yn erbyn Yr Alban, ac yn erbyn Iwerddon hefyd, siwr o fod. Rwy'n bersonol yn croesawu'r penderfyniad i benodi Owen. Er gwaethaf unrhyw ddiffygion deallusol, mae ei galon gant y cant y tu ol i'r achos, ac mae'n ymddangos yn foi ysbrydoledig ar y cae, fel y gwelwyd gan berfformiad Cymru yn yr ail hanner yn erbyn Ffrainc. Ac wrth gwrs, gwell cael capten yn rhif wyth, yng nghanol y chwarae, yn hytrach nag yn gefnwr.

3.3.05

Darn difyr o Golygon Gasyth

Diolch i Mr Gasyth am ddod â'r llythyr diddorol hwn at fy sylw...

2.3.05

Wel, shwmai, yr hen ffrind

Ymddiheuriadau i ddarllenydd y blog a'i gi, Tonto am beidio â diweddaru'r blog ers dros wythnos, ond weithiau, dyna shwt mae'r byd yn troi. Ac roedd fy myd mewn sbin llwyr yn dilyn y fuddugoliaeth ym Mharis, o oedd wir. Stadiwm gwych, awyrgylch trydanol ac achlysur i'w gofio. Fe geisia' i bostio'r tri llun cachlyd gymerais i yn y Stade de France yn fan hyn unwaith i fi beidio bod mor ddiog a chael e-bost ar y ffon, i 'ngalluogi i i roi moblog Ar Grwydr Tragwyddol ar waith.

Yn gyntaf, diolch i Nic am roi plyg bach ar Morfablog, na sylwais i arno fe. Hoffwn i ategu ei sylwadau bod angen blogiau Cymraeg mwy arbenigol ac am bob math o bethau.

Felly, beth yw tim y bencampwriaeth hyd yn hyn? Wel, er gwaethaf malu cachu'r Sunday Times fod y bencampwriaeth wedi bod yn un sâl, mae hi wedi bod yn un dda iawn, yn glos ac agored yn fy marn i. Rhyfedd sut maen nhw'n pwdu unwaith bod Cymru v Iwerddon yn troi'n gem bwysicaf yn hytrach na Lloegr v Ffrainc, ife? Dyw hi ddim yn syndod, felly, bod tipyn o Gymry a Gwyddelod yn rhan o fy nhim hyd yn hyn:

15 Murphy (Iwerddon)
14 Paterson (Yr Alban)
13 O'Driscoll (Iwerddon)
12 Henson (Cymru)
11 Shane (Cymru)
10 Jones (Cymru)
9 Yachvili (Ffrainc)
1 Jenkins (Cymru)
2 Byrne (Iwerddon)
3 Castrogiovanni (Yr Eidal)
4 O'Connell (Iwerddon)
5 O'Kelly (Iwerddon)
6 White (Yr Alban)
8 Corry (Lloegr)
7 Williams (Cymru)

Mwy o Albanwyr nag o Saeson. Mel ar fy mysedd? Gwell mynd am olchad bach...