22.7.05

Gorffwys

Bydd y blog 'ma'n gorffwys am sbelen fach, nes i'r tymor newydd ddechrau gyda BANG! ar y trydydd o Fedi gyda'r Gweilch v Leinster (POW!), Glasgow v Dreigiau (ZING!), Sgarlets v Caeredin (BOSH!), ac yn olaf, y fwyaf oll, Connacht v Gleision (KABLAMMO!). S'dim diddordeb 'da fi mewn sgwennu am y cweryla a'r cyllella ar ddiwedd taith HOLLOL GACHLYD y Llewod, na'r ffaith fod Leigh Hinton (LEEEEEEE HINTON!) wedi symud i'r Dreigiau.

Felly, yn y cyfamser, fydda' i gobeithio yn cerdded ac yn seiclo o ambell Cymru, yn mynd i'r Steddfod, yn penderfynu rhwng mynd i Toulouse i weld Sgarlets v Toulouse a Dulyn i weld Iwerddon v Cymru a gobeithio yn rhoi gwedd newydd i'r blog cyn brwydr Mike 'Dynamo' Tindall a Gavin 'Dwt' Henson.

Hwyl.

8.7.05

Le Tache

Moyn rhannu hwn gyda chi, welais i ar Gwl@d. Rhyfedd fel mae pethau'n newid, mmmm?

5.7.05

Ai fi sy'n wirion?

Neu a fyddai taith y Llewod wedi bod yn fwy diddorol ac yn fwy llwyddiannus pe bai'r canlynol wedi digwydd?

* Dewis carfan lai - llai o ddibyniaeth ar newid timau o hyd, a chreu mwy o undod o fewn y garfan oherwydd bod llai o gyfle iddyn nhw rannu'n grwpiau bach.

* Chwarae'r tîm prawf neu'n eithaf agos at y tîm prawf bob dydd Sadwrn - er mwyn i'r chwaraewyr gorau ddod i adnabod ei gilydd yn well a'u ffyrdd o chwarae.

* Peidio â dewis swyddog y wasg ag ego mawr ac sydd ddim yn deall rygbi - yn lle ceisio chwarae triciau meddyliol, beth am driciau ar y cae rygbi?

* Peidio â beirniadu chwaraewyr yng nghanol taith - sut yn union oedd Gavin Henson yn teimlo am y feirniadaeth am ei daclo cyn y prawf cyntaf?

* Ac yn olaf, wrth gwrs, RHAID RHAID RHAID dewis y chwaraewyr sy'n chwarae orau - peidied â dilyn yr ymadrodd "form is temporary, reputation is permanent". Cachu hwch llwyr.

Wel, o leia' *bydd mwyafrif o Gymry yn Ne Affrica yn 2009*...

*jinx*

1.7.05

Andrew Hore yn gadael...

Cymru i ddychwelyd i Seland Newydd. Wel, pwy all ei feio fe yn gadael am wlad ag 14 academi rygbi. O am gael y fath drefniant! Ond hoffwn ddiolch iddo fe o waelod fy nghalon am ei waith rhagorol. Mae e wedi troi chwaraewyr Cymru o fod yn chwaraewryr 60 munud, 10 peint, i fod yn athletwyr 80 munud (gweler Ffrainc-Cymru ym Mharis 'leni). O, ac mae e newydd enwi'i fab yn Thomas Carwyn.

Pob lwc, Andrew, a diolch yn fawr gan holl genfogwyr Cymru.