Coors yn noddi'r Stadiwm
Daeth newyddion heddiw fod cwrw (cachu) Coors wedi cytuno i roi £1 miliwn i Stadiwm y Mileniwm am hysbysebu (Beeb). Y llynedd, cafodd Awstralia gytundeb gwerth $30 miliwn gyda Bundaberg i noddi'r tîm cenedlaethol, a hynny AR BEN y cytundeb gyda Qantas. Falle bod gan Awstralia boblogaeth tipyn yn fwy na ni, ond mae'n bendant angen mwy o waith marchnata gan ein undeb diwerth.
2 sylw:
Ac yn ogystal, ma'r stadiwms i gyd gyda'r cytundeb efo Telstra.
Alla i'm help meddwl bod ni wedi methu'r bws wedi'r Slam Fawr llynedd. Dyliwn ni wedi bod yn puteinio'n hunain mas i bob cwmni er mwyn talu'r bils.
It ain't pretty, dwi'n gwbod, ond ma angen arian o rhywle.
hei, ma Coors yn neis!
Post a Comment
<< 'Sha thre, 'chan