31.10.05

Ian Gough #2

Mae'r llun o Mr Gough wedi'i newid ar y wefan isod, ond os y'ch chi moyn gweld y llun dan sylw, cliciwch yma.

He he (a llawer mwy o biffian plentynaidd...)

Ian Gough - coc

O diar - edrychwch yn fanwl ar Mr Gough ar y chwith...

Yr IRB yn dilorni cais Japan

Mwy o dystiolaeth nad yw'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn gwneud unrhyw beth i hyrwyddo poblogrwydd y gamp yn unrhyw le heblaw am y deng wlad fwyaf.

Y Times.

27.10.05

Cymru dan 21

Yn ôl y sôn, bydd holl gemau Cymru dan 21 y tymor nesaf yn cael ei chwarae yn Rodney Parade yng Nghasnewydd. I gyd-fynd â hyn, byddan nhw'n newid eu henw i Newport Wales Under 21, ac yn chwarae mewn aur a du.

26.10.05

Lee Byrne, heddwch i'w lwch

Ar ol cael ei ddewis i garfan Cymru ddoe, ymddengys i'r sioc fod yn ormod i Lee Byrne. Bydd colled mawr ar ei ol.

WALES skills coach Scott Johnson believes the Scarlets have unearthed a potential international gem in Lee Byrne.

The 25-year-old has come from nowhere to the Wales squad in a matter of months after literally bursting on to the professional scene.

O fan hyn.

25.10.05

Carfan Cymru

Rhag ofn eich bod chi wedi bod yn cael eich dal yn wystlon mewn ogog gan ryw greaduriaid afiach, hirfreichiog, amlbennog o ochrau Llanelli heddi, dyma garfan Cymru ar gyfer gemau'r Hydref.

Yn amlwg, dyw Mike Ruddock ddim yn darllen Y Rheng Flaen, achos dyw e heb ddilyn fy nghyngor a chynnwys Tom Cheeseman. Ond mae lle i Lee Byrne ar draul Rhys Williams sydd, â bod yn gwbwl onest, wedi bod yn crap braidd tymor 'ma.

O am ddyfnder Seland Newydd.

20.10.05

Gavin v Garan

Sgwn i os oes cysylltiad rhwng hyn a hyn?

Mae'n bryd i Henson gau ei ben.

17.10.05

Cheeseman yn y Guardian

Mae Tom Cheeseman, canolwr addawol Caerfaddon, mewn cyfweliad gyda'r Guardian, wedi ymrwymo'i hun i Gymru, ond bydd yn chwarae dros Loegr os bydd yn cael ei anwybyddu.

He has won caps with Wales schools at under-16 and under-18 levels, played for the country of his birth in the past two under-19 World Cups and was Wales's vice-captain in the last under-19 Six Nations Championship.
"I think I'm Welsh," he said in an accent that strongly backs up that observation. "I am 100% committed to Wales and the only reason I'd look to England is if Wales snub me or ignore me for the next five or six years.

"In a way I'd like to keep both options open, but I've declared for Wales. I'd only change that outlook if I get nowhere with Wales, and England were to give me a chance further down the road."


Efallai nad yw hyn yn arwydd o awydd tanbaid i chwarae dros ei wlad, ond o weld safon ei chwarae ym muddugoliaeth Caerfaddon yn erbyn Caerloyw ddydd Sadwrn, gorau po gyntaf y gallwn ni ei gael yng ngharfan Cymru. Gyda Shanklin yn ymuno â Henson ar restr y clwyfedig rai, pa obaith iddo gael cap yn erbyn Fiji?

11.10.05

Dylan Ebenezer, cau hi

Oes unrhyw un arall fel fi wedi hen flino ar digs bach Dylan Ebenezer at rygbi bob tro fydd e ar Radio Cymru? Unwaith eto bore 'ma, cafwyd rhyw sylw bach slei ganddo am y ffaith fod stori Gavin Henson, newyddion heddiw, wedi cael blaenoriaeth yn y Mule o flaen gem bel-droed Cymru v Azerbijan, newyddion fory. Hen bryd iddo fe sylweddoli fod 'na filoedd o bobl yn ne Cymru, prif ardal y papur, â safbwynt ychydig yn wahanol iddo fe, a hyd yn oed os yw e moyn beirniadu rygbi, nid newyddion y bore yw'r lle i wneud hynny.

6.10.05

Brwydr Undeb Rygbi Lloegr a'r clybiau

Mae pethau'n poethi yn ol y Times, gyda'r Undeb yn mynnu cael contractau canolog i wella'r gem yn Lloegr, a'r clybiau'n mynnu rhyddfraint er mwyn sicrhau dyfodol ariannol mwy diogel i'w clybiau rhag iddynt orfod wynebu perygl y gwymp i'r Adran Gyntaf.

Wrth gwrs, dewis y clybiau fyddai orau, gyda pherchnogion yn cadw rheolaeth ar y clybiau, a'r clybiau'n mabwysiadu dull mwy cyffrous o chwarae, heb orfod poeni am chwarae'n geidwadol i osgoi'r gwymp. Byddai perthynas well rhwng y clybiau a'r Undeb, gyda mwy o gyfathrebu o ran rhyddhau chwaraewyr i'r tim rhyngwladol.

Ond wrth gwrs, sai'n becso dam. Ha ha ha!

3.10.05

Timau Cymru dros y penwythnos

Wel, ar ol yr holl son a'r helbul ynghlwm wrth y Cwpan Powergen, fe gafwyd y penwythnos agoriadol yn y Cwpan Powergen. Un llwyddiannus dros ben i dimau Cymru, gyda'r Dreigiau'n curo Caerlyr (treulio'r Dreigiau? trailing the Dragons?), y Gleision yn curo Saracens (hmmm, cyfieithiad heb ei gwblhau), a'r Sgarlets yn curo Leeds (cyfieithiad heb ei wneud). Yr unig fethiant oedd y Gweilch yn colli yn erbyn Caerloyw (cyfieithiad go lew pan y'n ni'n colli...), ond roedd honna wastad yn mynd i fod yn gem anodd.

Fodd bynnag, un peth wnaeth fy nharo i, er gwaetha'r hefru gan y Saeson am y diffyg dyfnder yn ein gem ni, oedd cyn lleied o Saeson chwaraeodd yn erbyn timau Cymru. Dyma'r ffigurau...

Dreigiau: 14 Cymro, 1 ddim yn Gymro
Caerlyr: 12 Sais, 3 ddim yn Sais

Y Gleision: 14 Cymro, 1 ddim yn Gymro
Saracens: 9 Sais, 6 ddim yn Sais

Sgarlets: 12 Cymro, 3 ddim yn Gymro
Leeds: 8 Sais, 7 ddim yn Sais

Gweilch: 14 Cymro, 1 ddim yn Gymro
Caerloyw: 12 Sais, 3 ddim yn Sais