13.2.06

Stade de France - tebyg i Old Trafford?

Ydi, yn ôl Bernard Laporte yn y dyfyniad canlynol:
Bernard Laporte has always had an ambivalent relationship with the French public and it is unlikely to be any simpler after his team's pyrrhic victory led him to attack part of the Stade de France crowd as "fucking bourgeois" in what may prove to be French rugby's equivalent of Roy Keane's celebrated "prawn sandwich" outburst.
Laporte's outrage came after part of the Stade de France crowd whistled the France fly-half Frédéric Michalak, who was substituted with 10 minutes remaining. "I will help him and support him, unlike some of the public," the coach said. "I wish we could get more [rugby club] volunteers in the crowd - they would be better at supporting France. I'd put those fucking bourgeois on the pitch."


Bues i i'r Stade de France llynedd, oedd yn brofiad bythgofiadwy, ond rhaid dweud fod ymateb y Ffrancwyr i'r gêm yn rhyfedd. Roedden nhw'n gwawdio pan enwyd Laporte, yn eithaf tawel pan enwyd y tîm (heblaw am Betsen, os gofia' i), ac yn weddol dawedog drwy gydol y gêm. Roedd y Cymry yn y stadiwm yn canu'n uwch ar un adeg. Ond, fel dywedodd Ffrancwr wrtha' i wedyn, does dim caneuon i'w tynnu nhw i gyd at ei gilydd fel sydd gan y Cymry.

8.2.06

Coors yn noddi'r Stadiwm

Daeth newyddion heddiw fod cwrw (cachu) Coors wedi cytuno i roi £1 miliwn i Stadiwm y Mileniwm am hysbysebu (Beeb). Y llynedd, cafodd Awstralia gytundeb gwerth $30 miliwn gyda Bundaberg i noddi'r tîm cenedlaethol, a hynny AR BEN y cytundeb gyda Qantas. Falle bod gan Awstralia boblogaeth tipyn yn fwy na ni, ond mae'n bendant angen mwy o waith marchnata gan ein undeb diwerth.

4.2.06

Chwerthin cyn chwalfa

Yr unig beth i'w wneud erbyn hyn yw chwerthin. Chwerthin yn iach, bois bach.

Fy narogan? 23-21 i ni. Saethwch fi os fi'n rong hyd yn oed o bwynt.

Chwerthin cyn chwalfa

Yr unig beth i'w wneud erbyn hyn yw chwerthin. Chwerthin yn iach, bois bach.

Fy narogan? 23-21 i ni. Saethwch fi os fi'n rong hyd yn oed o bwynt.

Chwerthin cyn chwalfa

Yr unig beth i'w wneud erbyn hyn yw chwerthin. Chwerthin yn iach, bois bach.

Fy narogan? 23-21 i ni. Saethwch fi os fi'n rong hyd yn oed o bwynt.

3.2.06

Chwerthin cyn chwalfa

Does ond un peth i'w wneud erbyn hyn cyn y gêm fawr, sef chwerthin.

Ond rwy'n hyderus, o ydw. Rwy'n fodlon peryglu cael fy ngwawdio mewn llai na 24 awr, ond 23-21 i Gymru fydd hi. Rhowch hell iddyn nhw, bois bach!