29.3.05

'Arbenigwyr' chwerw

Iawn, rwy' wedi trafod hyn o'r blaen, ond mae'n wirioneddol anhygoel faint o'r arbenigwyr rygbi honedig hyn sy'n ceisio dilornu llwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Bob tro y bydda' i'n mynd i wefan drafod Gwlad neu Rygbi Cymru y dyddie hyn, bydd rhywun wedi postio sylwadau gan lembo Dick Bestaidd yn dweud fod Cymru ond wedi llwyddo achos bod y gwledydd eraill wedi tanberfformio (rhyfedd nad oedden nhw'n dweud hyn pan oedd Cymru'n tanberfformio) neu fod blaenwyr Cymru (oedd yn drech na phob pac arall yn y Bencampwriaeth) yn un gwan.

Cofiwch hyn - Cymru sgoriodd y nifer fwyaf o geisiau, Cymru wnaeth y mwyaf o daclau, Cymru basiodd fwyaf allan o'r dacl, Cymru dorrodd drwy linell amddiffynnol y gwrthwynebwyr fwyaf, dim ond Ffrainc giciodd llai o'r meddiant, Cymru enillodd y mwyaf o 'turnover', Cymru ildiodd y nifer leiaf o giciau cosb (ffynhonnell: Computacentre; argraffwyd yn y Times).

Mae hynny'n profi felly bod blaenwyr Cymru wedi taclo'n rhagorol, wedi dwyn pel y gwrthwynebwyr ac wedi bod yn ddisgybledig yn eu gwaith. Fe gadwodd yr olwyr y bel mewn llaw, gan redeg at y gwrthwynebwyr a dod o hyd i fylchau yn yr amddiffyn drwy eu chwarae medrus.

Ond, meddai'r arbenigwyr, mae'n rhaid bod unrhyw lwyddiant gan unrhyw un heblaw'r 'powerhouses' arferol yn ganlyniad i hud a lledrith y diawliaid Celtaidd 'ma...