30.11.05

Cymru'n ail!

Beth bynnag ddywed Paul Rees a'i ymennydd blacmange, mae'r ystadegau'n dangos mai Cymru oedd yr ail dim gorau yn y byd yn 2005, sef yr unig dim i ddod yn agos at record y Crysau Duon.

Cymru
(Safle byd 6, safle 2005 2)
Chwaraewyd: 11 - 6 gartref, 5 oddi cartref
Ennillwyd: 9 (81.8 y cant), buddugoliaethau gartref 4 (66.7 y cant), buddugoliaethau oddi cartref 5 (100.0 y cant)
Collwyd: 2 (18.2 y cant), colli 2 gartref (33.3 y cant)
Buddugoliaethau pwysicaf: Lloegr, Ffrainc, yr Alban, Iwerddon (Chwe Gwlad), Awstralia (Tachwedd)
Colled mwyaf arwyddocaol: Seland Newydd, De Affrica (Tachwedd)
Pwyntiau o blaid 342, pwyntiau yn erbyn 189 (cyfartaledd fesul gem 31-17)
Ceisiau o blaid 41, ceisiau yn erbyn 21 (cyfartaledd fesul gem 4-2)

23.11.05

Cymru v Awstralia

Alfie, Daf James, MJW (bachgen arall o Bontllanfraith), Parker, Shane, Wellies, Cooper, D Jones, Thomas, Horsmann, Gough, Sidoli, Charv, Owen, Williams

A Jones, Mefin, Evans, Thomas, Phillips, Sweeney, Byrne

22.11.05

Lansiad 'Call to Arms'

Heno bydd Call to Arms, ymddiriedolaeth i wasanaethu buddiannau Clwb Rygbi Caerdydd, yn cael ei lansio'n ffurfiol mewn cyfarfod am 8pm yn y clwb ei hun. Ffrwyth llafur 11 mis yw'r fenter, sydd bellach yn endid cyfreithiol. Dyma'r drydedd fenter o'i math yn y byd rygbi, yn dilyn Bryste a Chasnewydd. Daw hyn yn dilyn mesurau sydd, ym marn cefnogwyr y clwb, wedi israddio statws Clwb Rygbi Caerdydd a'i rôl yn rhanbarth Gleision Caerdydd.

In October 2004, Cardiff RFC ltd entered into a 5 year Operating Agreement with the Welsh Rugby Union which formally incorporated the enlarged region to include Rhondda Cynon Taf, Merthyr and South Powys. Cardiff RFC ltd are bound by the terms of that Agreement and these terms mean that Cardiff RFC is no more important (in terms of the Agreement) than any of the other 55 clubs in the region.

Call To Arms is bound by no such agreement and is a Supporters' Trust for Cardiff Rugby, which includes Cardiff RFC and Cardiff Blues. The Trust will be a shareholder in Cardiff RFC ltd and will seek to influence the policy of the company by using that shareholding. We hope that any conflicts will be minimised.

Er mai Clwb Rygbi Caerdydd sy'n berchen yn llwyr ar ranbarth y Gleision, beth yn union fydd hyn yn ei wneud i dawelu pryderon cefnogwyr o'r cymoedd a'u cynnwys mewn rhanbarth sydd eisoes yn ymddangos yn elyniaethus iddyn nhw ar ei ffurf bresennol?

Pob lwc i'r fenter serch hynny. Mae llwyddiant sawl ymddiriedolaeth o'r fath yn y byd pêl-droed wedi dangos mai llwyddiant sy'n dilyn pan mai pobl sydd â gwir gariad at eu clybiau sy'n gyfrifol am eu rhedeg.

19.11.05

State of Play

Damo, mae'r blog 'ma cymaint gwell na hwn.

Dargon ar gyfer fory: Cymru 12 De Affrica 31

17.11.05

Y cynnig gwannaf yn ennill

Llongyfarchiadau i Seland Newydd, un o'r gwledydd rygbi cryfaf yn y byd, am ennill y cais i gynnal Cwpan y Byd 2001, er gwaetha'r ffaith nad oes ganddyn nhw ddigon o westai, stadiymau digonol na'r chyfleusterau digonol ar gyfer y timau a fydd yn ymweld.

Pwy sydd moyn hyrwyddo rygbi tu fas i'r wyth gwlad fwyaf ta beth?

16.11.05

Pac anferthol... Dyna i chi syndod

De Affrica: Percy Montgomery; Conrad Jantjes, Jaque Fourie, Jean de Villiers, Bryan Habana; Meyer Bosman, Michael Claassens; Lawrence Sephaka, John Smit (capt), CJ van der Linde, Bakkies Botha, Victor Matfield, Schalk Burger, Juan Smith, Jacques Cronje.

Hanyani Shimange, Os du Randt, Albert van den Berg, Danie Rossouw, Bolla Conradie, De Wet Barry, Brent Russell.

Alfie i'r canol, Daf James yn dychwelyd

Llinell ôl fawr i wynebu'r Springboks, ond trueni am y cloeon...

Byrne, James, Thomas, Parker, Williams, Jones, Cooper, D Jones, Thomas, Horsman, Charteris, Sidoli, Charvis, Williams, Owen

Davies, A Jones, Gough, Thomas, Phillips, Sweeney, Watkins

Charteris a Sidoli yn erbyn y ddau 'ma? O diar.

10.11.05

Yappy!

Cefais fy synnu, o ddarllen yr erthygl yn fan hyn (mae'r frawddeg braidd yn ddryslyd, gan awgrymu mai dyma fydd y gêm gyntaf i Rhys Thomas ei dechrau, ond fe ddechreuodd e yn erbyn Canada yn yr haf), mai'r ornest yn erbyn Fiji nos fory fydd y gêm gyntaf i John Yapp ei dechrau dros Gymru. "Does bosib bod hyn yn wir?" meddylies i, ond, o edrych ar scrum.com, ymddengys fod hyn yn wir.

Mae'n dangos gymaint mae natur y gêm wedi newid o ran defnyddio eilyddion, lle rwy'n gallu ystyried Yapp yn chwaraewr rhyngwladol 'sefydlog', pan mai dim ond rhyw 120 munud o rygbi rhyngwladol mae'r boi wedi chwarae, sef gem a hanner yn unig!

8.11.05

Pryd o dafod i Awstralia

Tra'n darllen yr Observer ddydd Sul, fe ddes i ar draws y stori hon am anawsterau tîm ar eu hymweliad â Ffrainc. Ond yr hyn wnaeth fy nharo i oedd y canlynol, sef stori o'r haf nad oeddwn i wedi clywed amdani o'r blaen.

The following week a restaurateur of the same city was in a position to expose to a delighted South African press the bonding exercise the Aussies had indulged in over lunch, each of them writing down (and leaving at the table) which of their team-mates they would like to eat in the event of their plane crashing on a desert island, as well as how they would like them done. And they did indeed all bond together, everyone agreeing that the meaty prop forward, Matt Dunning, had all the makings of an excellent stirfry.

Nag y'n nhw'n gwybod bod llawer gormod o fraster ar Matt Dunning i wneud stirfry deche?

7.11.05

Dulyn 2006

Reit, fi wedi penderfynu anwybyddu blip bach dydd Sadwrn (oce, yn gryno, tystiolaeth o'n diffyg dyfnder yn fwy na dim, yn hytrach na gwendid cyffredinol yn ein ffordd o chwarae oedd yn gyfrifol, a'r ffaith fod Seland Newydd yn wych ar hyn o bryd - cymharer ein diffyg cloeon a chanolwyr o gymharu â nhw...) ac yn hytrach sôn am y ffaith y bydda' i'n mynd i Ddulyn i wylio Cymru yn 2006!

Unwaith o'r blaen fi wedi bod 'na, bedair blynedd yn ôl, pan gollon ni o 54-10, felly fi'n eitha' siwr y bydd pethe ychydig yn well tro 'ma. Dyna'i gyd mae'n rhaid neud nawr yw aros i Sail Rail agor eu drysau i gael bwcio'r daith, gan mai dim ond yr hostel sydd wedi'i fwcio.

2.11.05

Cais Japan ar gyfer 2011

Cliciwch yma i ddatgan eich cefnogaeth i gais Japan i gynnal Cwpan y Byd 2011, a hyrwyddo Cwpan Rygbi'r BYD, nid dim ond y gwledydd mawr.

1.11.05

XXII Cymru i wynebu Seland Newydd

G Thomas (capt); K Morgan, M Taylor, C Sweeney, S Williams; S Jones, M Phillips; D Jones, M Davies, A Jones, B Cockbain, R Sidoli, J Thomas, M Owen, C Charvis.
Eilyddion: Rh Thomas, C Horsman, L Charteris, R Sowden-Taylor, G Cooper, N Robinson, L Byrne

Ffaith i chi.