22.2.05

Cymru v Ffrainc

Yn ôl rhywun ar Gwlad!, tîm Cymru ar gyfer yr ornest yn erbyn Ffrainc fydd:

15 G Thomas
14 K Morgan
13 T Shanklin
12 G Henson
11 S Williams
10 S Jones
9 D Peel
1 G Jenkins
2 M Davies
3 A Jones
4 B Cockbain
5 R Sidoli
6 R Jones
8 M Owen
7 M Williams

Mae gwybodusion Gwlad! yn meddwl bod rheswm dros gredu IL&M, ac os felly, gofynnaf i'r aelod dan sylw i ofyn i dîm rheoli Cymru am esboniad pam chwarae Ryan Jones, rhif wyth naturiol, fel blaenasgellwr ochr dywyll. Ond gwych gweld Luscombe MOMYFG.

21.2.05

Ateb clyfar Brains i ddeddfau Ffrainc

Gobeithio y cawn ni gyfuniad o'r ddau ar y cae - ond y vin rouge fydd yn mynd â fy mryd i cyn yr ornest a'r noson wedi ein buddugoliaeth*.



*siwr o fod

18.2.05

Glaswellt gwych

Os oes digon o arian gyda chi, gallwch chi geisio prynu'r llecyn lle sgoriodd Shane Bach ei gais a lle ciciodd Henson ei gic mewn ocsiwn arbennig i godi arian ar gyfer Cronfa Toby Lloyd Cockbain.

Achos gwerth chweil, ond sut fyddwch chi'n cadw'r borfa'n fyw?

17.2.05

Trechu'r touts

Ymddengys bod bosys rygbi Cymru yn dechrau sylweddoli bod touts yn bodoli a'u bod nhw'n difetha rygbi i'r cefnogwyr arferol. Hefyd, ymddengys bod y clybiau'n dechrau sylweddoli bod eu systemau nhw rhywbeth i wneud â'r broblem. Dyma lythyr a anfonwyd gan 'ranbarth' Gleision Caerdydd at eu cefnogwyr, ar eu gwefan.

Cael eu gwrthod rhag cael tocyn tro nesaf? Felly maen nhw wedi cael getawe tro 'ma, byddan nhw'n cael getawe tro nesaf, ond y tro wedyn, ho ho ho, dim gobaith caneri, gwboi! Mae'n rhaid i URC a'r rhanbarthau/clybiau weithredu nawr i atal hyn. S'dim gobaith gyda fi o gael tocyn i un o'r gemau yn Stadiwm y Mileniwm yn y bencampwriaeth hon, ac er fy mod i'n mynd i deithio i Baris a Chaeredin, s'dim sicrwydd y bydda' i'n cael gafael ar docyn ar gyfer y naill gem pan fydda' i yna.

A beth am hyn, ar gyfer gem Iwerddon yn erbyn Lloegr!

15.2.05

Pont Scott Gibbs

Mae'n annhebygol iawn y bydd hyn yn gweithio, ond os ewch chi fan hyn, gallwch chi enwebu cais Scott Gibbs v Lloegr yn 1999 fel moment fwyaf arwyddocaol yr hen Wembley, a bydd pont yn cael ei henwi ar ei ol.

14.2.05

Y drefn newydd

Dyma'r safleoedd diweddaraf, oddi ar wefan yr IRB:

1 (1) Seland Newydd 90.90

2 (2) Awstralia 88.58

3 (3) De Affrica 85.78

4 (5) Ffrainc 85.12

5 (6) Iwerddon 83.61

6 (4) Lloegr 83.50

7 (7) Cymru 79.58

8 (8) Yr Ariannin 77.63

9 (10) Fiji 74.17

10 (9) Yr Alban 73.94

Duw â ŵyr beth sydd angen i Gymru ei wneud i gymryd safle Lloegr yn chweched, ond byddai buddugoliaeth ym Mharis yn sicr yn help mawr, ynghyd â buddugoliaeth i'r Gwyddelod dros yr hen elyn yn Nulyn.

"The Welsh invented arrogance, for the love of Mike"

Ie, dyna a ddywed yr Observer yn adroddiad hurt y papur o gem dydd Sadwrn ddoe. A hyn gan Sais. Anhygoel. Bron mor anhygoel â pha mor pisd off oedd Guscott a Johnson ddoe ar Grandstand, yn methu credu bod y Ffrancod wedi bod mor hy ag ennill gem drwy giciau'n unig. O mor hawdd y mae'r cof yn pallu, ife bois? A chlod mawr i Jonathan Davies am eistedd drwy'r cyfan gyda dim mwy na gwen enfawr ar ei wyneb, er ei bod hi'n amlwg fwy nag unwaith ei fod e ar fin byrsto mas yn chwerthin.

Felly, beth yw'r asesiad yn dilyn y penwythnos? Wel, roedd hi'n benwythnos da i Gymru yn amlwg. Am yr ail Sadwrn o'r bron fe lwyddwyd i oresgyn pac yr oedd llawer yn tybio oedd yn rhy gryf i ni. Oce, am hanner awr (ugain munud olaf yr hanner cyntaf a deg munud cyntaf yr ail hanner), roedd y perfformiad yn bell o fod yn wych, er gwaethaf heip a honiadau'r Western Mule. Roedd camgymeriadau yn frith yn y perfformiad pan oedden ni'n chwarae fel roedd yr Eidal am i ni chwarae, ei chadw'n dynn ymysg y blaenwyr, ond unwaith i ni ledu'r bel, daeth yr ornest i ben yn go gyflym. Ry'n ni wedi dangos bod gennym ni'r olwyr gorau yn y bencampwriaeth, gyda cymysgedd dda, fel y dywedodd Will Greenwood, o chwaraewyr cadarn fel Jones, Shanklin a Thomas, a chwaraewyr ag ychydig o sbarc, fel Williams, Henson a Peel. Dyma'r gem i'w chwarae yn erbyn Ffrainc, a oedd yn siomedig uffernol yn erbyn Lloegr.

Yn dilyn y ddwy gem agoriadol, sai'n poeni gymaint rhagor am fygythiad Ffrainc. Oni bai bod Laporte yn cael gwared ar y gwachul Yann Delaigue ac yn dewis y gwych Frederic Michalak, does dim byd yn perthyn i linell ol Ffrainc sy'n gwneud i fi feddwl y bydd ein llinell ol ni o dan bwysau. Felly, er 'mod i'n rhoi'r cart o flaen y ceffyl, buddugoliaeth ym Mharis ydw i'n ei ddarogan.

Yn olaf, Iwerddon. Cafwyd perfformiad grymus ganddyn nhw lan yng Nghaeredin. Os oedd olwyr Cymru'n wych yn erbyn yr Eidal, y perfformiad rhagorol arall oedd pac Iwerddon. Llwyddwyd i oresgyn y braw cynnar, a rhoi'r Alban dan bwysau uffernol ym mhob agwedd ar y chwarae. Mae hyn o fantais i ni, gan nad ydw i'n meddwl y bydd mynd i Gaeredin mor wael ag oeddwn i'r wythnos diwethaf, ond rwy'n dechrau poeni'n uffernol am y gem dyngedfennol (o bosib) yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd. Maen nhw'n edrych yn dda. Yn dda iawn.

Ond mynd o flaen gofid yw hynny, ond mae'n arwydd mai hyder tawel sydd 'da ni, nid 'arrogance', diolch yn fawr. Felly am nawr, rwy'n mynd i fwynhau'r ystadegyn canlynol...

1 Iwerddon 2 0 0 +38 4
2 Cymru 2 0 0 +32 4
3 Ffrainc 2 0 0 +8 4
4 Lloegr 2 0 0 -3 0
5 Yr Alban 2 0 0 -34 0
6 Yr Eidal 2 0 0 -41 0

All dyn ddim gofyn am ddechreuad gwell.

9.2.05

Dim newid

Mae Capten Haddock Mike Ruddock wedi dewis yr un tim i wynebu'r Eidal ddydd Sadwrn â'r un wynebodd Loegr ddydd Sadwrn diwetha'. Os nad y'ch chi'n fy nghredu i, ewch i weld BBC Cymru'r Byd...

Danny Grewcock

Danny Grewcock fydd yn cicio dros Loegr eto ddydd Sadwrn. Ho ho ho!

Gwarthus o foi, wir. Gwarthus.

8.2.05

Parthed Mike Phillips

Codwyd y pwynt ar Gwlad (rhaid ymuno i'w ddarllen) yn gynharach nad oeddwn i wedi meddwl amdano wrth bostio'r cofnod am Mike Phillips. Gyda'r ddau dim yn brwydro am le olaf Cymru yn y Cwpan Heineken, os fydd Phillips yn cael ei ddewis yn y gem dyngedfennol rhwng y ddau dim, sut fydd e'n chwarae, gan y byddai'n fwy buddiol iddo e i'r Gleision ennill y lle olaf? Mae hyn yn fy atgoffa rhyw ychydig am Lomana Lua Lua yn sgorio gol i Bortsmouth y llynedd yn erbyn ei gyflogwyr Newcastle United, a oedd yn rhannol gyfrifol am Newcastle yn methu ar le yng Nghynghrair y Pencampwyr. A ddylai trosglwyddiadau felly gael eu cyfyngu i'r adegau pan nad oed unrhyw chwarae, i osgoi gwrthdaro buddiannau fel hyn?

Symud o'r Strade

Mae Mike Phillips, mewnwr addawol y Sgarlets a Chymru, wedi penderfynu gadael y Strade i ymuno â Gleision Caerdydd, meddai icwales. Gallai hyn fod yn drosglwyddiad da i Phillips, gan ei fod wedi bod yn ail ddewis y tu ôl i Dwayne Peel, mewnwr presennol Cymru.

7.2.05

Wedi'r chwyldro

Wel, sai'n hollol siwr beth i'w ddweud. Rwy'n dal i fynd dros y gic yn fy mhen dro ar ol tro. Roedd y teimlad ar ddiwedd y gem yn un hollol wych, teimlad nad ydw i wedi'i gael wrth wylio Cymru ers tro byd. A'r hyn sy'n coroni'r cyfan yw mai ni oedd yn haeddu ennill. Fe frwydrodd y pac drwy'r prynhawn, yn aml yn drech na phum blaen anferthol Lloegr. Roedd mwy o sbarc a chreadigrwydd yn perthyn i'n holwyr ni. Iawn, fe fuom ni ond y dim a'i cholli hi, achos fe lwyddodd Lloegr i ddod nol mewn i'r gem, yn enwedig ar ol eilyddio Mathew Tait a dod ag Olly Barkley ymlaen. Ond ni oedd paiu'r fuddugoliaeth achos, fel y dywed Eddie Butler, yn wahanol i'r ffordd mae pethau wedi digwydd yn ddiweddar, fe lwyddon ni i chwarae ychydig bach yn llai pert ac ennill, yn lle bod yn rhy garedig a rhoi'r fuddugoliaeth i'r gwrthwynebwyr.

Ond peidied â bod yn hunanfodlon. Fel y dangosodd yr Eidal ddoe, ni allwn ni ddisgwyl mynd i Rufain a chael buddugoliaeth awtomatig bellach. Mae'r gwaith caled ond megis dechrau. Mae hwn yn gam pwysig, ond ddim yn un y dylen ni orffwys arno.



Gol - ymddiheuraf am fy ngwaith diog parthed rhoi dolenni i dudalennau Cymraeg y BBC.

4.2.05

Mwy o llenwi nhrons (mewn teyrnged i Joni)

Wel, mae'r awr yn dyngedfennol yn nesau. Sai'n gallu meddwl am unrhyw beth arall ar hyn o bryd. Sut fydd Gethin Jenkins yn ymdopi â sgrymio Julian White? A fydd ein pump blaen ni'n ymdopi â maint eu un nhw? Pwy fydd yn drech o'r ddwy reng ôl? A fydd ein 'gamebreakers' (Peel, Shane a Henson) yn disgleirio? Ydy Thomas a Luscombe yn rhy araf o gymharu â Cueto, Lewsey a Robinson?

Mae pob posibilrwydd wedi bod yn troelli rownd fy mhen ers pythefnos a mwy, a'r unig beth i wneud nawr yw gwylio'r gêm. Ond bydde'n well 'da fi gymryd anaesthetic am gwpwl o oriau a chael gwybod y canlyniad wedi 'ny yn lle mynd trwy'r artaith...

3.2.05

"Stephen Jones... mâs at Shane Williams... ac mae'n gais i Gymru!"

Ond a fydd teclyn Piero yn gweld pethau'n wahanol? Fel y twrw a gafwyd yn dilyn y smonach llwyr wnaeth y llimanwr o bethau yn y gêm rhwng Man U a Spurs yng nghamp-y-bel-siâp-rong (hawlfraint - fi), mae cryn amheuon ynghlwm wrth hyn. Yn fy marn i, dylid cadw technoleg fideo at geisiau'n unig, neu cyn hir bydd teclyn Piro yn cael ei ddefnyddio i benderfynu a yw chwaraewr yn sgrymio'n syth, a oedd chwaraewr wedi'i ddal oddi ar y tir mewn sgarmes, a gafodd chwaraewr ei dynnu lawr yn y llinell, ac ati ac ati ac ati. Bydd hud a swyn y gêm yn cael ei ddifetha'n llwyr.

1.2.05

Cyhoeddi tim Cymru

Wel, falle iddyn nhw ddweud mai ar newyddion BBC Wales fyddai'r cyhoeddiad ond... clic

(i'w drafod yn fanylach fory)