31.1.05

Jonathan yn yr Independent

Erthygl gan Jonathan Davies, un o fy arwyr cyntaf, sy'n dwyn i gof ei gem gyntaf dros Gymru, gyda buddugoliaeth o 24 i 15 yn erbyn y Saeson yng Nghaerdydd. Fe wnaeth y frawddeg ganlynol wneud i fi chwerthin:

"Nutritionists will have watched everything they've eaten. They would have shuddered to watch us eating. On the morning of the match most of us had a full fried breakfast, apart from those who had steak and chips."

Mae rygbi wedi gwella yn sicr o ran safon y chwarae, ond efallai i'r elfen o ansicrwydd, lle nad oedd hi'n bendant pwy fyddai'n ennill y gem, wedi diflannu o'r adeg pan oeddwn i'n blentyn yn gwylio'r gem. Dyna pam mae gornest dydd Sadwrn yn fy nghyffroi i gymaint.

Wel, wel, Williams

Yn ol y disgwyl, mae'r gemau meddyliol wedi dechrau o ddifrif, fel a nodir yn y Western Mail heddiw. Beth yw'r tebygolrwydd y bydd straeon am Wilkinson yn adfer yn wyrthiol o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf?

28.1.05

Agwedd cefnogwyr pel-droed

Unwaith eto, mae agwedd cefnogwr pel-droed wedi llwyddo i fy ngwylltio i (wele). Achos ei gwyn? Y ffaith bod arwyddion yn cael eu gosod yn dangos i bobl ble mae'r clwb rygbi mewn amryw lefydd yng Ngwynedd!

Pobl fel hyn sy'n fy nhroi i fwyfwy yn erbyn pel-droed a'r agwedd 'shgwlwch-arna-i' sy'n rhemp yn y gamp. Beth sydd o'i le gyda'r ddwy gamp yn bodoli ochr yn ochr yng Nghymru, gwedwch?

Cais Gibbs

Rhaid oedd ei flogio, rhaid.

Tîm (tebygol) Cymru

Mae'r Western Mail wedi cyhoeddi'r hyn maen nhw'n feddwl fydd tîm tebygol Cymru, yn seiliedig ar bwy sydd wedi cael eu cadw gyda'r garfan, a phwy sydd wedi cael dychwelyd i'r rhanbarthau. Y syndod mwyaf i fi yw y bydd Sidoli yn eilydd i'r Gleision heno'n erbyn Caeredin, tra fod Llewelyn yn cael ei gyfrif yn y tîm tebygol:

15 Thomas
14 Shanklin
13 Parker
12 Henson
11 Williams
10 S Jones
9 Peel
1 Jenkins
2 Davies neu McBryde
3 A Jones
4 Cockbain
5 Llewelyn
7 Pugh
8 Owen
6 D Jones

Dim syndod o gwbl, heblaw Pugh wrth gwrs, a'r ffaith fod Ruddock yn ddigon parod i ddefnyddio Chwaraewr Rygbi Hynaf y Byd © unwaith blydi eto, pan mae Gough a Sidoli wedi bod yn chwarae'n rhagorol. Angen neidiwr ym mlaen y llinell siwr o fod.

27.1.05

Dal i ofni'r Saeson

Mae Lloegr newydd gyhoeddi eu carfan ar gyfer yr ornest yn ein herbyn ni mewn (llyncu) naw diwrnod. Dyma'r garfan yn llawn:

Cefnwyr: Jason Robinson (Sale Sharks, capt), Mark Cueto (Sale Sharks), Josh Lewsey (Wasps), Iain Balshaw (Leeds), Ben Cohen (Northampton), Mathew Tait (Newcastle), Jamie Noon (Newcastle), Ollie Smith (Caerlyr), Henry Paul (Caerloyw), Olly Barkley (Caerfaddon), Charlie Hodgson (Sale Sharks), Matt Dawson (Wasps), Andy Gomarsall (Caerloyw), Harry Ellis (Caerlyr).

Blaenwyr: Graham Rowntree (Caerlyr), Andy Sheridan (Sale Sharks), Julian White (Caerlyr), Phil Vickery (Caerloyw), Steve Thompson (Northampton), Andy Titterrell (Sale Sharks), George Chuter (Caerlyr), Danny Grewcock (Caerfaddon), Simon Shaw (Wasps), Steve Borthwick (Caerfaddon), Ben Kay (Caerfaddon), Hugh Vyvyan (Saracens), Lewis Moody (Caerlyr), Andy Hazell (Caerloyw), Joe Worsley (Wasps), Jamie Forrester (Caerloyw).

Byddwn i'n meddwl, ac o ddarllen cyfraniad Nigel Melville yn y Guardian (diolch, Gary), mai tim Lloegr i'n hwynebu ni fydd Robinson, Cueto, Tait, Noon, Lewsey, Hodgson, Dawson/Gomarsall, Rowntree, Thompson, White, Grewcock, Kay, Hazell, Worsley, Moody.

Efallai bod diffyg profiad yn y cefnwyr, ond fel mae pawb yn gwybod, y blaenwyr sy'n penderfynu pwy sy'n ennill y gem, a'r cefnwyr sy'n penderfynu gan faint. Dyw Jenkins, Davies, A Jones, Cockbain, Sidoli, Pugh, Owen, D Jones yn erbyn Rowntree, Thompson, White, Grewcock, Kay, Hazell, Worsley, Moody ddim yn rhoi llawer o hyder i fi ar hyn o bryd.

26.1.05

Darpariaeth rygbi gwarthus y Guardian

O glicio yma ar hyn o bryd (wythnos a hanner cyn Cymru v Lloegr), ceir stori am waharddiad mewnwr Northampton am stampo, stori am ymddeoliad Martin Johnson, adran am y Cwpan Powergen a'r Cwpan Heineken, stori am Mike Tindall a'r ras i'w arwyddo (mae e wedi arwyddo contract newydd gyda Chaerfaddon ers wythnos). Hyn er gwaethaf y stori am Charvis a Williams mas i Gymru, blaenasgellwr newydd, cymharol ddi-brofiad (Pugh) yn dod mewn i garfan Cymru, a'r holl halibalw sy'n gysylltiedig â charfan Lloegr ar hyn o bryd.

Yn yr hydref, adeg y gemau rhyngwladol, adeg Cymru a Seland Newydd, cafwyd stori am gemau Lloegr, yr Alban ac Iwerddon, ond dim am yr ornest rhwng y crysau cochion a'r crysau duon. O ystyried darpariaeth y Guardian ar-lein ac yn y papur ar gyfer y bêl gron, hen bryd i'r Guardian shapo'u stwmps.

25.1.05

Charvis a Williams mas

Dyna mae'r BBC yn ei ddweud... Ymddengys mai Richie Pugh fydd y dewis erbyn hyn. Fe weles i fe'n chwarae'n erbyn y Gleision (ac yn erbyn Martyn Williams) Ddydd Calan, ac fe gafodd e argraff dda arna' i gyda'i daclo cadarn a'i gyflymdra (fe sgoriodd un o unig geisiau'r gêm), ond mae angen tipyn o brofiad yn erbyn rheng ôl Lloegr (Moody, Worsley a Hazell) sydd bellach wedi ennill y profiad angenrheidiol ar lefel ryngwladol. Rwy'n poeni'n fawr o golli eu dawn amlwg.

Lloegr yn chwarae triciau

Mae triciau meddyliol Lloegr yn dechrau cyn y gem yn Stadiwm y Mileniwm, gyda Martin Johnson yn dweud mai dyma'r dechreuad anoddaf i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad mae Lloegr wedi'i gael ers amser hir. Mae Lloegr eisoes yn ceisio gwneud Cymru'n rhyw fath o ffefrynnau ar gyfer y gem (hei, allwn ni roi gormod o heip i'n hunain heb eich help chi, iawn?), achos, fel a dystiwyd gan fuddugoliaeth Lloegr yn erbyn Iwerddon yn y gem dyngedfennol yn 2003, dyw'r gwledydd Celtaidd ddim yn chwarae ar eu gorau pan maen nhw'n ffefrynnau.

Felly, ar ol tri, 'ry'n ni'n mynd i golli gan bumdeg o bwyntiau ry'n ni'n mynd i golli gan bumdeg o bwyntiau ry'n ni'n mynd i golli gan bumdeg o bwyntiau ry'n ni'n mynd i golli gan bumdeg o bwyntiau ry'n ni'n mynd i golli gan bumdeg o bwyntiau '...

24.1.05

Ar y brig

Llwyddodd Pontllanfraith i aros ar frig Adran Pedwar Dwyrain y penwythnos hwn gyda buddugoliaeth ysgubol o 48 i 5 yn erbyn St Peters, y tîm agosaf (rwy'n credu) at lle rwy'n byw nawr. Roedd hyn yn bwysig, gan i Grymlyn gadw'r pwysau gyda buddugoliaeth yn y gêm ddarbi yn erbyn Oakdale o 20 i 7.

Yn dilyn dechrau sigledig braidd (gweler y ddolen), ymddengys mai dim ond Pontllanfraith all drechu eu hunain bellach yn yr ymgyrch i gyrraedd Adran Tri Dwyrain.

Croeso i'r Rheng Flaen!

Er mwyn osgoi diflasu darllenwyr Bachgen o Bontllanfraith dros y tri mis nesaf gydag obsesiynau bach am y rygbi, dyma fi'n penderfynu creu blog ymylol i ymdrin â'r pwnc... Croeso!