Edi Bytlyr yn y Gardiyn
Erthygl fach ddiddorol gan Eddie Butler yn y Guardian, Rygbi Special. Mae'n gwneud y pwynt pwysig i ni fodloni'n hunain ar fuddugoliaethau ar y maes chwarae tra'n gadael i'r meistri corn, Lloegr, ddwyn yr holl arian o'r Cymoedd ar yr un pryd. A fu rygbi yn sefyll yn ein ffordd yn rhy hir?
Diolch i Chwadan am ddwyn yr erthygl i fy sylw.
4 sylw:
I fod yn pedantig, yn yr Observer oedd yr erthygl.
Ond da oedd darllen am unwaith erthygl am rygbi yng Nghymru oedd yn cyfaddef mai yn y de oedd rygbi'n gryf ac nid yn genedlaethol.
Ond roedd un camgymeriad yn yr erthygl am ddylanwad Manceinion ar bêl-droed gogledd Cymru - fel arall oedd hi, gyda gogledd ddwyrain Cymru'n ddylanwad ar Fanceinion.
Sefydlwyd clwb Newton Heath gan nifer o gyn chwaraewyr y Derwyddon o Riwabon - ac mae pawb yn gwybod be' ddigwyddodd i glwb Newton Heath!
Wir? Wel y jiw, jiw! Do'n i ddim yn gwbod hynna o'r blaen!
Ie, cytuno'n llwyr - mae newyddiadurwyr Llundain fel arfer yn rhy ddiog i sylweddoli bod 'na wahaniaethau rhwng gwahanol ardaloedd Cymru. Yr un ystrydeb sydd bob tro, boed yn bel-droed neu'n rygbi "they'll be crying/singing in the Valleys tonight"...
Ia - dwi'n cofio sylwebaeth Tony Gubba ar MOTD y noson drechodd Wrecsam Arsenal yng Nghwpan FA Lloegr:
"That one (gôl Mickey T.) is sure to set the valleys alight"
Wel, tydw i ddim yn siwr os mai diffyg gwybodaeth daearyddol Mr Gubba oedd ar fai neu rhyw lein fach slei o gymerodwyo Meibion Glyndwr oedd hi!!
Erthygl fach dda, dda gweld fy hen athro chwaraeon Peter 'tackle, tackle tackle' Manning yn rhoi i farn 'fyd.
Post a Comment
<< 'Sha thre, 'chan