22.3.05

Zinzan yn siarad drwy'i het

Mae chwaraewr chwedlonol y Crysau Duon, Zinzan Brooke, yn dilyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, wedi dewis tîm y Llewod y mae'n credu ddylai wynebu ei wlad. Ac fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, os ydych chi'n dilyn rygbi'n agos, mae Zinzan yn llwyddo i siarad drwy ei het drwy gydol yr erthygl.

Yn gyntaf, mae'r dyfyniad hwn, "Wales are very good as a team but there are individuals elsewhere, some of whom punched below their weight in the Six Nations, who should go to New Zealand on merit." Felly, er gwaethaf y ffaith mai Cymru yw'r tim gorau, mae Zinzan o'r farn bod chwaraewr o Loegr sydd heb chwarae ers blwyddyn a hanner (Wilkinson) yn haeddu'i le o flaen chwaraewr sydd wedi bod yn chwarae'n wych ers dwy flynedd heb unrhyw glod gan yr 'arbenigwyr' o Loegr a Seland Newydd (Stephen Jones). Hefyd, mae chwaraewr (Paterson) a gafodd gem erchyll yn amddiffynnol yn erbyn Lloegr ac a fu'n anghyson uffernol yn ystod y Bencampwriaeth yn haeddu'i le o flaen Morgan, Thomas neu Murphy, na wnaeth unrhyw beth o'i le drwy gydol y Bencampwriaeth. Rhagorol, Zinzan.

Ond, mae Mr Brooke yn cadw'r perlau gorau tan y diwedd. Er gwaethaf dewis Martyn Williams, chwaraewr gorau a mwyaf cyson y Bencampwriaeth o beth wmbredd, mae'n mynd ymlaen i ddweud mai Neil Back, y chwaraewr 36 oed sydd wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol, oedd yn methu cael lle yng ngharfan Lloegr flwyddyn yn ol, fyddai ei ddewis delfrydol. Ac yn ymuno â Back yn y rheng-ol-sydd-wedi-gweld-dyddiau-gwell? Dallaglio wrth gwrs! Wnaeth Zinzan Brooke wylio'r gem rhwng hemisffer y de a hemisffer y gogledd? A welodd e pa mor araf oedd Dilly Dallio?

Dyma ddau chwaraewr sydd yn gwrthod rhoi'r ymroddiad i chwarae rygbi rhyngwladol, sydd ddim wedi chwarae ar y lefel briodol ers misoedd lawer, ond sydd dal eisiau'r clod a'r bri o fod yn rhan o'r Llewod eto. Wel, sori, bois, os nag y'ch chi'n fodlon rhoi tamed bach o ymroddiad ar lefel ryngwladol, peidiwch â mynd i Seland Newydd, fe gewch chi'ch rhwygo'n ddarnau.

Mae Cymru wedi cystadlu ym mhob agwedd ar y chwarae, gyda chwaraewyr ym mhob safle'n dangos eu dawn a'u caledwch. Ond s'dim ots faint mae'n nhw'n trio, mae Zinzan yn dal i gael ei kick-backs gan Undeb Rygbi Lloegr i sgwennu'r cachu 'ma, yn canmol tim Lloegr, y gwannaf ers tro.