7.3.05

Mehrtens i'r Gweilch?

Mae stori yn y Western Mail heddiw yn awgrymu y gallai Andrew Mehrtens, un o fawrion yr oes fodern sydd wedi ennill 70 o gapiau dros Seland Newydd, fod yn symud i ranbarth y Gweilch yn y dyfodol agos.

Er gwaethaf y goblygiadau ariannol a fyddai ynghlwm ag unrhyw gontract gyda Mehrtens, rwy' o'r farn y byddai hyn o fudd i'r Gweilch ac i rygbi Cymru yn gyffredinol. Byddai atyniad chwaraewr o statws Mehrtens yn sicr o lenwi'r coffrau fyddai'n cael eu gwagio gan dâl chwaraewr o'r fath, a byddai presenoldeb cystal chwaraewr â Mehrtens yn cael effaith gadarnhaol ar Matthew Jones, y chwaraewr ifanc sy'n chwarae dros y Gweilch a Chymru dan 21 ar hyn o bryd. 31 oed yw Mehrtens, felly cyfnod datblygu yw hwn i Jones. A beth am y cyfuniad o Mehrtens a Henson dros y Gweilch. Mae'n tynnu dŵr i'r dannedd.

Hefyd, o ran rygbi Cymru a'r Gynghrair Geltaidd, byddai arwyddo chwaraewr o'r fath yn cadarnhau statws ein rhanbarthau a'r gynghrair fel cynghrair a all ddangos y rygbi gorau a denu'r chwaraewyr gorau. Ni ddylai gormodedd o chwaraewyr tramor ymuno â'n rhanbarthau (fel sydd wedi digwydd yn Lloegr, er yr effaith andwyol y mae'n ei gael ar y cyfleoedd i chwaraewyr Seisnig), ond mae'n iawn cael ambell un i ddangos y ffordd.

Maioha, Andrew.