28.4.05

Rodney, you plonker!

Nos fory, fe fyddaf yn ymweld â Rodney Parade am y tro cyntaf ers i rygbi 'rhanbarthol' ddechrau yno. A dweud y gwir, sai'n credu 'mod i wedi bod 'na unwaith i weld gêm o rygbi, felly newidiwch hynna i 'fe fyddaf yn ymweld â Rodney Parade am y tro cyntaf'. Yr achlysur fydd rownd gogynderfynol y Cwpan Celtaidd, cystadleuaeth sydd ar farw os yw'r cynlluniau am y Bencampwriaeth Eingl-Gymreig am fynd rhagddynt.

Hoffen i fod wedi mynychu'n gynt, ond fel ydw i a gweddill pobl Gwent yn ei wybod, er gwaethaf gweniaith Martin Hazell, Casnewydd sydd mewn grym yn y rhanbarth, gan beidio â gwneud unrhyw ymdrech i gynnwys gweddill Gwent yn y set-yp.

Gobeithio'n fawr, felly, y byddaf yn gallu clenshian fy nannedd drwy'r bloeddiadau 'Nooooopo-ort, Nooooopo-ort' a chael rhyw fath o syniad o sut mae rygbi rhanbarthol yn gweithio lawr ar y Dave, ac os oes unrhyw obaith am y dyfodol. Sai'n dal fy ngwynt, cofiwch.

25.4.05

Blog rygbi arall

Wrth bori ar dudalennau Gwlad, dyma fi'n sylwi ar y blog Money in Rugby: Succeeding in a New Era. Dyw e ddim yn cael ei ddiweddaru'n aml, fe ymddengys, ond bydd y peth yn fwy treiddgar na'r rhan fwyaf o stwff sy'n cael ei bostio ar fan hyn.

(ciw y ffidil lleiaf yn y byd...)

Gobaith i Duncan neu Adam? Neu Darren?

Mae Matt Stevens, y prop o Dde Affrica sydd wedi penderfynu chwarae dros Loegr, wedi cael anaf yn chwarae dros ei glwb, Caerfaddon, meddai'r Times. A fydd hyn yn golygu y bydd Adam Jones neu Duncan Jones yn cael lle haeddiannol yng ngharfan y Llewod? Neu, oherwydd bod yr Arglwydd Moel moyn prop sy'n gallu sgrymio ar y ddwy ochr, y Cymro (a'r Llew) coll, Darren Morris? Fe wnaeth e'n dda wedi dod i'r cae i Gaerlŷr yn erbyn Toulouse, medde nhw.

22.4.05

Y Sgarlets - mwy o chwaraewyr tramor

Wedi iddyn nhw arwyddo un chwaraewr o Tonga ac un chwaraewr o Dde Affrica, mae Sgarlets Llanelli wedi penderfynu parhau â'r arfer drwy arwyddo Mike Hercus, yr Americanwr, o Sale Sharks! Does bosib bod rhywun gwell o fewn y rhanbarth, maswr addawol gyda Llanymddyfri, neu Gwins Caerfyrddin, RHYWUN?

Mae'n demtasiwn i ddweud 'pam ydw i'n becso, dim ond y Sgarlets yw'r rhain', ond mae'r holl fater ynghlwm â dyfodol rygbi Cymru a llwyddiant y rhanbarthau i ddatblygu chwaraewyr Cymru.

20.4.05

Blwyddyn y Ddraig

Newydd archebu hwn oddi ar Amazon. Methu aros nes bydd y peth yn cyrraedd! Fe fydda' i'n disgwyl y postmon fel plentyn bach!

18.4.05

Y Bencampwriaeth Eingl-Gymreig

Ie'n wir, meddai'r Guardian. Bydd Cwpan Lloegr yn dod i ben, gyda phencapwriaeth Eingl-Gymreig yn cymryd ei le. Bydd hyn yn rhoi mwy o broffil ac arian i ranbarthau Cymru, ond gan bwy fydd y gwir rym? Faint fydd hyn yn tanseilio'r Gynghrair Geltaidd? Mae gen i fwy o bryderon nag o deimladau cysurus am hyn...

Da gweld y Gwyddelod yn cwyno am danseilio'r Gynghrair Geltaidd, serch hynny. Mae'r eironi'n hyfryd o ddigrif.

15.4.05

Presenoldeb yn y GG

Cynnydd gan bob un o dimau Cymru, ond hefyd yn dda gweld cynnydd gan Leinster a Munster - ydi hyn yn golygu bod timau mawr Iwerddon o'r diwedd yn gweld gwerth yn y gystadleuaeth?

Ond dim un o'r timau yn agos at ffigwr hud Moffo o 8000 o gefnogwyr ar gyfartaledd.

2004-05
Tim - Cyfanswm - Cyfartaledd - Newid %
Gleision Caerdydd 42555 / 4728 / 8.3%
Connacht 19347 / 1935 / -20.2%
Dreigiau Casnewydd Gwent 49275 / 5475 / 35.4%
Caeredin 27186 / 2719 / -21.6%
Glasgow 20570 / 2286 / -24.7%
Leinster 43846 / 4385 / 38.2%
Sgarlets Llanelli 62263 / 6226 / 10.1%
Munster 51170 / 5686 / 24.2%
Gweilch Tawe Nedd 54541 / 5454 / 38.6%
Gororau'r Alban 14522 / 1452 / -32.4%
Ulster 58980 / 6553 / -4.5%

2003-04
Tim - Cyfanswm - Cyfartaledd
Gleision Caerdydd 48040 / 4367
Connacht 29110 / 2426
Dreigiau Casnewydd Gwent 44468 / 4043
Caeredin 45099 / 3469
Glasgow 39439 / 3034
Leinster 38077 / 3173
Sgarlets Llanelli 73521 / 5655
Munster 50338 / 4576
Gweilch Tawe Nedd 43295 / 3936
Gororau'r Alban 25790 / 2149
Ulster 82351 / 6863

Y Rhyfelwyr Celtaidd 33317 / 2776

14.4.05

Yr Arch-idiot

Wrth gwrs, yw Stephen Jones. Na, nid maswr Clermont Auvergne a Chymru, ond urchin bach Clive Woodward, sydd wedi sgwennu'r erthygl hon. Anhygoel meddwl bod y boi 'ma'n Gymro. Ie, yn amlwg fydd y Celtiaid ddim yn ceisio mynd i'r afael o gwbl â'r Crysau Duon gan nad oes profiad ganddyn nhw o ennill drostyn nhw, Stephen... Nag wyt ti wedi meddwl mai nhw yw'r chwaraewyr sy'n cyrraedd eu pinacl ac yn FWY AWYDDUS?

Y Teigrod Celtaidd?

Gobeithio ddim. Llawer gwell i Gymru gael chwarae yn erbyn Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia yn yr hydref, nid i dim cyfunol o Iwerddon, yr Alban a Chymru wneud hynny.

12.4.05

Cymru i chwarae'n erbyn Seland Newydd

Hwre! Cyfle i Gymru geisio profi'u hunain yn erbyn De Affrica, Awstralia a Seland Newydd yn yr hydref!

Y Dreigiau

Rwy' newydd glywed sion y bydd y Dreigiau'n cael eu datgan yn fethdalwyr yn y dyfodol agos. Rwy'n mawr obeithio na fydd hyn yn digwydd, oherwydd mae gormod o chwaraewyr o safon gyda ni i'w ffitio mewn i dair rhanbarth. URC sydd biau 50% o'r cyfranddaliadau a Chlwb Rygbi Casnewydd sydd biau'r 50% arall. Mae Moffett wedi datgan yn y gorffennol mai pedair rhanbarth yw'r nifer ddelfrydol, felly mae gobaith na fydd hanes yn ei ailadrodd ei hun...

11.4.05

Carfan y Llewod

Dyma'r garfan (y rhai fi'n anghytuno â nhw mewn bold a'r chwaraewyr ddylai fod yn mynd yn eu lle nhw):

Brian O'Driscoll (Capten)

Neil Back (Hogg neu O'Connor)
Iain Balshaw (Morgan)

Gordon Bulloch
Shane Byrne
Gareth Cooper
Martin Corry
Chris Cusiter
Lawrence Dallaglio (fi, ti, blydi unrhyw un - cont o'r radd flaenaf)
Matt Dawson (Blair)
Will Greenwood
Danny Grewcock
John Hayes (A Jones)
Gavin Henson
Denis Hickie
Richard Hill
Charlie Hodgson (Wilkinson)
Shane Horgan (Paterson)

Gethin Jenkins
Stephen Jones
Ben Kay
Josh Lewsey
Lewis Moody
Geordan Murphy
Donnacha O'Callaghan
Paul O'Connell
Ronan O'Gara (Humphreys)
Malcolm O'Kelly
Michael Owen
Dwayne Peel
Jason Robinson
Graham Rowntree
Tom Shanklin
Andy Sheridan (D Jones neu Yapp)
Ollie Smith
Matt Stevens
Simon Taylor
Gareth Thomas
Steve Thompson
Andy Titterrell (M Davies neu McBryde)
Julian White
Martyn Williams
Shane Williams

Mae gen i fy amheuon am Greenwood, Ollie Smith a Rowntree hefyd, ond rwy'n rhoi'r 'benefit of the doubt' iddyn nhw.

Ac all unrhyw yn esbonio i fi sut gafodd Cymru 11 chwaraewr allan o 37 yn 2001 wedi ennill dwy gem ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ond dim ond 10 allan o 44 wedi ennill y Gamp Lawn?

8.4.05

Y Gleision

Rwy'n mynd i weld y Gleision yn wynebu Ulster. Dydw i erioed wedi 'nghyfri fy hun yn gefnogwr, ond rwy' wedi dechrau mynychu'r gemau yn ddiweddar, yn rhannol am fy mod i'n cael eu gweld nhw am ddim (mae ffrindiau i fi'n rhentu ar Westgate Street), ond hefyd am fy mod i'n mwynhau'r awyrgylch.

Mae'n gêm hollbwysig i'r tim, gan eu bod nhw bum pwynt tu ôl i Connacht ac wyth pwynt y tu ôl i Ulster yn y frwydr am le yn y gêm ail gyfle yn y trydydd tim. Yn syml, rhaid iddyn nhw ennill heno, ennill wythnos nesa', a gobeithio y bydd y ddau arall yn methu yn eu gemau nhw (y Gweilch a'r Dreigiau sydd gan Connacht a'r Sgarlets gartref yw gêm olaf Ulster).

Y tîm fydd Macleod, Czekaj (da ei weld e'n cael ei gyfle), Rh Williams, Shanklin, Morgan, Robinson, Powell, Yapp, Williams, Quinnell, Sidoli, Sowden-Taylor, Schubert, Williams. Felly, gydag un neu ddau eithriad, dyma yw tîm cyntaf y Gleision. Does dim esgus dros golli, yn enwedig o ystyried y ffars yn Iwerddon lle mae Undeb Rygbi Iwerddon eisoes wedi dewis Ulster ar gyfer y Cwpan Heineken! Am beth maen nhw'n chwarae erbyn hyn? Y Cwpan Celtaidd? Woo!

5.4.05

Dathliad yn y Stadiwm

Wel, nid gorymdaith fws gawn ni i ddathlu'r Gamp Lawn wedi'r cyfan, ond rhyw 'gyngerdd' ceiniog a dime yn Stadiwm y Mileniwm, meddai'r Guardian. Ac wrth gwrs, bydd y diawled yn codi tâl ar bobl i fynychu'r digwyddiad.

Er gwaetha'r ffaith eu bod nhw'n dweud y bydd yr arian hwn yn mynd at elusen, rhaid mynegi fy aniddigrwydd. Beth am wneud rhywbeth lle bydd pawb yn gallu dod a dathlu, yn lle gwneud rhywbeth cyfyng i hybu eu proffil eu hunain? Beth am y bobl dlotach mewn cymdeithas fydd yn methu fforddio dod i'r stadiwm ar gyfer y dathliad? A faint o Gymraeg fydd yn y digwyddiad i adlewyrchu'r ganran o siaradwyr Cymraeg sydd wedi mynychu'r gemau yn ystod y Gamp Lawn?

Trist iawn eu bod nhw wedi colli'r cyfle hwn i gael dathliad gwirioneddol ar hyd strydoedd Caerdydd, Caerfyrddin a Chaernarfon. Ro'n i'n gwbod bod disgwyl trefniant gan URC yn freuddwyd gwrach.