23.12.05

"I'm appalled! I really am appalled!"

I ddyfynnu'r hen ddyn meddw yn Grand Slam (uchod). Ie, mae Gavin Henson yn euog yn y treial bei meeja, ac wedi'i wahardd am ddeng wythnos.

Felly, all rywun esbonio sut gafodd Fabien Pelous waharddiad o naw wythnos am daro gwrthwynebydd â'i benelin, ei ail drosedd o'r fath o fewn cyfnod o ddeuddeg mis, ac yn erbyn chwaraewr oedd mewn sgarmes, ond mae Henson wedi cael gwaharddiad o ddeg wythnos am ei drosedd ddifrifol gyntaf wrth ymateb i chwaraewr oedd yn ceisio neud dolur iddo fe?

Y panel: un Gwyddel a dau Albanwr.

Y gemau y bydd Henson yn eu methu: Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.

Rhyfedd.

Rhaid mynd nawr, neu fe fydda' i'n ffrwydro â gwylltineb.