31.5.05

Iwerddon a'r Alban yn towlu ni mas!

Wele!

Hmmm, pa mor hir fydd hi nes iddyn nhw sylweddoli nad yw cynghrair gyda thimau gwan Iwerddon (h.y. heb eu chwaraewyr rhyngwladol) a thimau sâl yr Alban yn denu unrhyw un? Edrych i fi fel mai bygythiad yw hyn. Mae'r ffaith fod yr Eidalwyr wedi gwrthod ymuno â nhw'n adrodd cyfrolau.

Fyddan nhw'n camu lawr maes o law. Dyna fy narogan am y dydd. Os fydda' i'n anghywir... wel, fydda' i'n gweld rhanbarthau eraill Cymru ar Barc yr Arfau yn llawer mwy rheolaidd nag ydw i ar hyn o bryd.

26.5.05

URC i ddefnyddio mwy o Gymraeg!

Dyna ddywed y wefan. Rwy' wedi cwyno wrthyn nhw am y diffyg Cymraeg ar y wefan, a heb gael unrhyw gydnabyddiaeth o sawl llythyr anfonais i yn Gymraeg am amryw resymau. Gobeithio y bydd hyn yn dro ar fyd.

Diolch i Al/Cymro Cadarn ar Rygbi Cymru am dynnu hyn at fy sylw.

Y Sgarlets yn arwain y ffordd unwaith eto

Yn arwyddo chwaraewyr o dramor! Regan King y tro 'ma, sydd wedi ennill un cap dros Seland Newydd (yn erbyn Cymru), ac sydd wedi bod yn chwarae (fel eilydd yn bennaf) i Stade Francais. Son am 'transition phase', myn yffach i!

25.5.05

The East Terrace

Mae gwefan ddychanol ragorol The East Terrace wedi ehangu i gynnwys adran adolygiadau. Yno, mae adolygiadau cynhwysfawr o ddau lyfr sydd wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar am Gamp Lawn Cymru, sef llyfr Paul Rees, Year of the Dragon, a'r llyfr swyddogol, Breathing Fire (Team Wales? Ych!)

Mae'n werth darllen gweddill y wefan hefyd, achos mae'n llawn clasuron. Un o'r goreuon yw "We'll always rule the rugby world," says triumphant Wales

"We'll always dominant rugby, especially in Europe," beamed an ecstatic WRU member just hours after scores from Phil Bennett, Gareth Edwards and Steve Fenwick saw Wales secure her third Grand Slam of the decade by defeating France 16-7. "Apart from the odd game against France and New Zealand, I can't see where we can go wrong," added Ivor Jenkins, a fan who watched the championship game from the West Terrace of Cardiff Arms Park. "Our supply of talented world class players seems like it will never end."

The annual dominance of Wales and France (the French were also in line for the Slam) has led to calls for the fixture list to be rearranged and have these two giants face each other on the final weekend of the tournament to keep up fan interest. The WRU have declared it a time for "putting up the old feet, slapping backs and taking it all in".


Llwyddo i gymryd y piss mas ohonon ni'n hunain a Lloegr mewn un dyfyniad. Penigamp.

24.5.05

Yr Ariannin yn ymuno â'r Chwe Gwlad

Dyna yw eu dymuniad, fel y dywed adroddiad y BBC a dyna fyddwn i'n hoffi'i weld, o ran gweld diwedd ar snobyddrwydd prif undebau rygbi'r byd tuag at y gwledydd sy'n ceisio cyrraedd y brig, fel Yr Eidal, Yr Ariannin a Fiji, ac hefyd er mwyn cael taith i rywle fel Tucuman bob yn ail flwyddyn. Mae gobaith gwirioneddol y gallai hyn weithio ar lefel ymarferol hefyd.

Loffreda said: "We would like to play in the Six Nations. Our players, who are mostly playing in the northern hemisphere, could manage that.

"We need help. The International Rugby Board must listen."

Argentina have no real opposition in the Americas and would face club-versus-country conflicts if they were to join the Tri-Nations in the southern hemisphere.

Father Dennis Hickie

Nid dim ond fi sy'n credu hyn, ond y rhan fwyaf o gefnogwyr Munster hefyd. Drychwch...

Father Jack



Dennis Hickie



Oce, dyw'r rhain ddim yn enghreifftiau da iawn, ond os oes angen mwy o dystiolaeth, gweler tudalen flaen y Mule ddoe, gyda Hickie yn ei got ddu gyda'r botymau lan i'r top.

Rhywbeth bach i godi calon

Os ydych chi, fel fi, yn casau dydd Mawrth, dyma i chi rywbeth bach i godi calon. Ar y diwrnod hwn, chwe blynedd yn ol, bu'n rhaid i Lawrence Dallaglio roi'r gorau i'w rol fel capten Lloegr. Tystiolaeth fod pethau drwg weithiau yn digwydd i bobl ddrwg.

A chofier, y tro nesa' y bu'n gapten ar ei wlad, roedd eu canlyniade nhw mor sâl yr ymddeolodd e o rygbi rhyngwladol! Huzzah!

19.5.05

Euro Rugby

Wedi bwriadu postio ers sbel am dabl y clybiau Ewropaidd (y 'proper tidy rugby rankings', chwedl Gwl@d!), sef Euro Rugby. Y pump uchaf ar hyn o bryd yw:
1 Stade Francais
2 Wasps
3 Toulouse
4 Munster
5 Biarritz
Sai cweit yn deall shwt ma' Munster yn uwch na Biarritz Olympique Pays Bas, ond barith hynna ddim yn hir o ystyried henaint/cachrwydd cynhenid chwaraewyr Munster.

18.5.05

Y Grauniad yn gwneud i ddyn (a menyw, mae'n siwr) chwerthin

Wele ar dudalen *ragorol* rygbi'r Grauniad. O dan y pennawd 'No All Blacks in Lions warm-ups':

Clive Woodward's England squad will have less preperation than any of their predecessors after the All Blacks coach made his players unavaliable.


Damo ni am feddwl bod ffafriaeth ar waith.

Annwyl ddarllenwyr

All rywun esbonio wrtha' i beth yw'r cyfiawnhad mewn peidio â chyfnewid cefnwr gyda chefnwr arall, ond yn hytrach asgellwr sydd byth wedi chwarae cefnwr ar y llwyfan rhyngwladol? Ac a all rywun esbonio'r rhesymeg dros fynd i Seland Newydd heb un cefnwr naturiol?

Atebion ar gerdyn post. Diolch.

17.5.05

Gosod y dyddiadur flwyddyn o flaen llaw

Ble fyddwch chi ar 20 neu 21 Mai 2006? Fi'n gwbod lle fydda' i! Fi'n dechre fy ngweddio'n gynnar...

O Dduw yn goruchaf. Ymbiliaf arnat i adael i Toulouse gyrraedd y rownd derfynol, fel y bydd llwyth o ferched lyfli o Dde Ffrainc yn dod i Gaerdydd. Os gwnei di hyn, fi'n addo rhoi cyfle i rygbi rhanbarthol yng Ngwent, addo paddo. Yn oes oesoedd, amen. Diolch, byt.

13.5.05

Wel dyna i chi syndod

Er gwaetha'r ffaith mai Dietmar Hamman gafodd y nifer fwyaf o enwebiadau, ac y cafodd Scott Gibbs a Jim Baxter nifer fawr o enwebiadau, pwy mae Wembley wedi dewis ar gyfer y rhestr fer? Ramsey, Hurst, Charlton, Band Aid a cheffyl.

Oedd pwynt cael pol piniwn yn y lle cyntaf?

12.5.05

Cyfaddefiad

Fi siaradodd gyda Donal Courtney ddydd Sadwrn. Ond buon ni'n trafod blodau a chwningod bach fflwffi. Mae e'n hen gariad bach fel'na.

10.5.05

Am enw gwirion!

Ond byddai'n well 'da fi weld Cwpan yr Enfys na'r Cwpan Eingl-Gymreig, am resymau diwylliannol yn hytrach na rhesymau ariannol.

Hefyd, mewn diwrnod go brysur i'r bel hirgron yng Nghymru, mae'r Sgarlets wedi cyhoeddi y bydd Dafydd James yn ymuno â nhw. O! y fath gyflymder ymysg eu holwyr! (ha!)

Paul Turner

Wedi'i enwi'n hyfforddwr ar y Dreigiau, meddai'r BBC. Mae hyn yn benderfyniad call. Mae Turner yn dod o Went, ond hefyd wedi chwarae dros Gasnewydd - gobeithio y bydd hyn yn helpu i greu pontydd rhwng y ddwy garfan yn y rhanbarth.

9.5.05

Wel shwmai, yr hen ffrind

Mae dros wythnos wedi pasio ers i fi flogio fan hyn ddiwethaf, ac fel mae'r hen ddywediad yn ei ddweud, mae wythnos yn amser hir mewn rygbi. Oce, mewn gwleidyddiaeth, ond sai moyn trafod gwleidyddiaeth yng ngoleuni'r hyn ddigwyddodd ddydd Iau. Felly, dyma, yn gryno, sydd wedi digwydd yn y byd rygbi...

* Bu i'r Harlequins, gyda 'world class Will Greenwood', ddisgyn allan o'r brif adran yn Lloegr. Mae Will Carling yn hollol gyted. Ha ha ha!

* Cafodd carfan Cymru ei gyhoeddi, sef K Morgan, R Williams, C Czekaj, C Morgan, T Selley, M Taylor, M Watkins, C Sweeney, M Jones, N Robinson, M Phillips, A Williams;
D Jones, J Yapp, B Broster, A Jones, M Davies, R Thomas, M Rees, L Charteris, B Cockbain, I Gough, R Sidoli, C Charvis, R Jones, R Pugh, R Sowden-Taylor, J Thomas, A Popham. Ro'm i'n hanner disgwyl gweld enw Chris Horsmann yna, ond da gweld Ruddock yn dewis chwaraewyr sydd moyn chwarae i Gymru, nid rhywun sy'n hwrio'i hun rhwng dwy wlad.

* Gwireddwyd yr anochel wrth i Wilkinson gael ei enwi yng ngharfan Lloegr. Doedd Duncan Jones ddim yn ddigon da er ei fod wedi chwarae rhan fwya'r tymor, ond mae rhywun sydd wedi chwarae tua mil o funudau o rygbi mewn blwyddyn a hanner yn iawn i fynd. Mae rhesymeg yr Arglwydd Moel yn anhygoel...

* Ac yn olaf, drym rol cyflym i gyflwyno'r rownd derfynol fwyaf diflas i unrhyw gystadleuaeth erioed (ac eithrio Lloegr v Awstralia 2003)... (brrrrrrrrrr) Sgarlets v Munster! Cadwch lygad am y chwarae chwimwth, y pasio medrus a'r ceisiau diri, gyfeillion. Achos bydd hi'n syndod os gwelwch chi nhw.