20.3.05

Dathlu (amodol)

Wel, ry'n ni wedi'i gwneud hi o'r diwedd. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n gweld Camp Lawn yn fy mywyd, ond, fel y'ch chi'n gwybod mae'n siwr, Cymru yw pencampwyr y Chwe Gwlad, ac wedi ennill y Goron Driphlyg a'r Gamp Lawn. Mae hyn yn sicr, yn fy marn i, yn dyst i'r gwaith caled sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd, i ddod â rygbi Cymru i'r oes fodern. Ond dydyn ni heb wneud hyn ar delerau pawb arall. Dy'n ni heb ddilyn agwedd 'wam-bam' diflas Lloegr ac Awstralia. Ry'n ni wedi bod yn llawer mwy craff a dilyn ein trywydd ein hunain. Allwn ni ddim cystadlu'n gorfforol, felly ry'n ni wedi cadw'r bêl mewn llaw a chwilio am y bylchau yn amddiffynfeydd timau eraill. Ond mae hyn, wrth gwrs, wedi dod law yn llaw â chryfder ac angerdd ein hamddiffyn.

Ond, bydd 'na gwyn yn cael ei anfon at URC cyn hir. Pam oedd rhaid rhoi medalau 'dewrder' i derfysgwyr milwyr a fu'n Irac cyn y gêm? Ydy pethau'n mynd mor wael bod rhaid gwthio pethau lawr ein gyddfau i wneud i ni feddwl 'o mor wych fu'r cyrch ar bobl ddiniwed'? Os ydych chi'n teimlo'r un fath â fi (a fy ffrind Cai), anfonwch lythyr at Undeb Rygbi Cymru Cyf, Llawr Cyntaf, Tŷ Golate, 101 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, Cymru CF10 1GE neu anfonwch neges e-bost at info@wru.co.uk. Mae bod yn gefnogwr Cymru yn golygu rhyddid meddwl.