10.3.05

Gwaharddiad ganja

Mae un o chwaraewyr 'Gwyddelod' Llundain, Pierre Durant, y prop o Dde Affrica, wedi cael ei wahardd am chwe wythnos am brofi'n positif am ganabis. Dyma'r stori ar wefan y BBC.

I ddyfynnu Eddie Izzard, "marijuana helps you win a race of eight million people... who are all dead". Pam mae gwaharddiadau am y cyffur yn dal i fodoli mewn chwaraeon, Duw a ŵyr yn wir.

1 sylw:

Bu Blogger Gary mor hy â thraethu...

Dwi'n credu fod marjuana yn gallu cuddio cyffur sydd yn gwella perfformiad a dyna pam mae o'm waharddedig.

11:46 am  

Post a Comment

<< 'Sha thre, 'chan