22.3.05

Tîm y Bencampwriaeth

Roedd rhaid dewis un. Dyw hwn ddim yn ddewis swyddogol, ond mae'n well na'r rhan fwyaf sy'n cael eu cynnig gan 'arbenigwyr' papurau newydd Lloegr:

15 Kevin Morgan
Dechrau ar y fainc ond wedi dod mewn i'r tîm a chynnig gwasanaeth gwych. Llinellau rhedeg deallus a chreadigol.

14 Josh Lewsey
Wedi disgleirio mewn tîm gwan, yn amddiffynnol ac yn ymosodol

13 Brian O'Driscoll
Achubodd ei dîm rhag embaras yn erbyn Yr Eidal a bron ag achub y dydd yn erbyn Ffrainc.

12 Gavin Henson
Y gorau o giwed wael yn y safle. Heb wneud llawer yn ymosodol, ond yn aruthrol yn yr amddiffyn, a'i gicio'n rhagorol.

11 Shane Williams
Po fwyaf maen nhw'n ceisio'i atal, y gorau oll mae'n datblygu.

10 Stephen Jones
Wedi dysgu sut mae rheoli gêm ac un arall na ildiodd fodfedd i'r gwrthwynebwyr.

9 Dwayne Peel
Yn dilyn dechrau tawel a phawb yn sôn am Cussiter, fe ddaeth i'r amlwg gyda chwarae craff, deallus.

1 Gethin Jenkins
Sgrymio cadarn a gwaith rhagorol yn y chwarae agored. Un o'r chwaraewyr mwyaf ffit yn y Bencampwriaeth.

2 Fabio Ongaro
Safle arall fu'n broblem i'r chwe gwlad. Ongaro sy'n mynd â hi am ei daflu unionsyth a'i chwarae rhydd.

3 Nicolas Mas
Sgrymiwr cadarn a fu'n drech na chwaraewyr rhagorol fu yn ei erbyn.

4 Paul O'Connell
Er gwaethef ei gamweddau yn erbyn Cymru, fe arweiniodd bac Iwerddon yn rhagorol drwy gydol y Bencampwriaeth.

5 Malcolm O'Kelly
Agos rhwng sawl chwaraewr, gan gynnwys Pelous, Kay, Sidoli, Bortolami a Murray. Rhaid rhoi lle i O'Kelly am ei gysondeb.

6 Serge Betsen
Bu'n byw ar y llinell gamsefyll am ran fwya'r Bencampwriaeth, ond bu'n hynod effeithiol eto. Enghraifft berffaith oedd y ffordd y dygodd y bêl yn Nulyn ar gyfer y cais buddugol.

8 Martin Corry
Brwydr agos arall rhwng Corry ac Owen. Datblygodd Owen (a Taylor) wrthi'r Bencampwriaeth fynd yn ei blaen, ond roedd Corry yn arweiniwr amlwg mewn tîm trafferthus.

7 Martyn Williams
Dim amheuaeth am hyn. Fe wnaeth e bopeth, sgorio ceisiau, arbed ceisiau, chwarae'n ddolen gyswllt, brwydro ar y llawr. Rhagorol.

Eilyddion: Lo Cicero, Byrne, Kay, Owen, Yachvili, Paterson, Murphy

2 sylw:

Bu Blogger Chicken Legs, Twm and The Kid mor hy â thraethu...

Er mod i'n cytuno gyda ti taw Martyn Williams ddylse fod yn y crys rhif 7, ma'n rhaid cal Yannick Nyanga fel eilydd. Martyn oedd chwaraewr y gyfres ond Nyanga oedd y talent newydd mwya disglair. O ran Henson, ma na lot ganddo i brofi 'to, dyw cwpwl o dymp tacls a cwpl o gics ddim yn ddigon i roi crys y Llewod ar i gefn 'to ond ma talent da'r boi a tase fe'n treulio llai o amser yn poeni am i wallt ac yn cwrso Church mi fyse pethe'n well.

3:02 pm  
Bu Blogger cridlyn mor hy â thraethu...

Cytuno â ti am Nyanga, ond fel wedes i am Henson, fe oedd y gorau o giwed wael yn y safle. Roedd y bencampwriaeth yn gweld ishe D'Arcy.

4:44 pm  

Post a Comment

<< 'Sha thre, 'chan