27.9.05

Croeso...

i garfan waethaf Lloegr ers tro!

Dolen i wefan y BBC.

Felly, os bydd Van Gisbergen, Lewsey, Abbott a Stevens yn dechrau, ai dyma'r tim mwyaf di-Seisnig erioed?

26.9.05

Amheuon pellach am daith y Llewod

Dyma sydd wedi digwydd i'r deuddeg Llew o Gymru ers diwedd y daith.

1. Cockbain - hwyr yn cyrraedd y daith i Seland Newydd. Nol yn chwarae i'r Gweilch.
2. Cooper - newydd gael llawdriniaeth yn dilyn anaf.
3. Henson - newydd gael llawdriniaeth yn dilyn anaf.
4. Jenkins - newydd gael llawdriniaeth yn dilyn anaf.
5. R Jones - wedi'i anafu.
6. S Jones - nol yn chwarae i Clermont Auverge ers wythnosau.
7. Owen - dal i orffwys
8. Peel - dal i orffwys
9. Shanklin - wedi'i anafu.
10. M Williams - dal i orffwys
11. S Williams - newydd gael llawdriniaeth yn dilyn anaf.
12. Thomas - nol yn chwarae i Toulouse ers wythnosau.

Felly beth mae taith y Llewod wedi'i gynnig i'r Cymry heblaw am gael mynd i Seland Newydd i gael eu pechu gan hyfforddwr sydd wedi gweld dyddiau gwell, cael eu hanafu a bygwth siâp tim Cymru ar gyfer gemau'r hydref?

23.9.05

And yers to ewe, Mister Robinson

Mae fy ffrind Daf wedi bod yn mynd 'mlaen a 'mlaen ers misoedd gyda rhyw ensyniadau am Jamie Robinson yn diodde' o ryw afiechyd yn sgil cael perthnase gyda gwahanol fenywod o amgylch Caerdydd (aye, gwirion, fi'n gwbod, ond deunydd sgyrsie eitha' diddan yn y dafarn).

Wel, Daf, bydd Jamie'n chwarae ei gem gynta' dros y Gleision ers dros flwyddyn fory, oddi cartre' yn erbyn Glasgow, yn ol gwefan y Gleision. Roedd e i fod i chwarae dros y tim lled-broffesiynol, ond cafodd ei ddyrchafu i'r tim proffesiynol yn dilyn anaf i Nick 'Rosie' Mcleod. Jyst gobeithio nad yw'n cael ei dynnu nol i'r tim yn rhy glou.

20.9.05

Y Llewod yn dychwelyd?

Mae'r Dreigiau wedi gofyn os caiff Michael Owen ddychwelyd yn gynnar, ond mae'n edrych yn debygol mai na fydd yr ateb. Ond beth yw pythefnos arall o ystyried dechreuad gwael ein rhanbarthau, a bod yn gwbwl onest? Mae angen ein chwaraewyr rhyngwladol nol cyn gynted â phosibl!

14.9.05

Joe Worsley - twpsyn

Sai'n meddwl rhyw lawer ohono fe fel chwaraewr, ond mae Joe Worsley wastad yn neud i fi chwerthin pan mae'n ymddangos yn y cyfryngau. Mae e'n amlwg yn berson plentynaidd a chwerw iawn, am y ffaith nad yw e cystal â chwaraewyr diweddar Lloegr, na chystal â'r rhan helaeth o chwaraewyr rheng ol rhyngwladol presennol (gan gynnwys rheng ol yr Alban a'r Eidal). Y tro 'ma, mae e wedi bod yn malu cachu yn y Grauniad...

"The standard of Six Nations last season was terrible. Wasps or Leicester could have won it. That's not a big comment. They would have won it easily because the standard of the competition was so bad. There needs to be a sea-change in how we approach games."

Scott Johnson

Mae'n amlwg bod Scott Johnson yn gweld pethau nag yw gweddill cefnogwyr rygbi Cymru yn ei weld. Gobeithio y gwelwn ni dro ar fyd heno wrth i'r Gleision roi crasfa i'r Tyrcs afiach 'na!

13.9.05

Gwyliwch eich cefnau, Gasnewydd

Mae Moffo ar eich ôl chi tro 'ma.

The WRU are determined to make sure all of the regions are on a firm footing and are determined to make sure they don't have another Dragons episode on their hands. The Rodney Parade outfit went into administration in their first season back in 2003.

ICWales

6.9.05

Atgyfodi'r Rheng Flaen

Bydd y Rheng Flaen yn cael ei atgyfodi cyn bo hir, fi'n addo. O'dd hi'n benwythnos siomedig i dimau Cymru, ond dim ond dwy o'r gemau welais i, felly s'dim rhyw lawer gyda fi son amdano na weloch chi siwr o fod.

Lawr i Barc yr Arfau nos Wener ar gyfer gem Ulster mae'n siwr, felly gewch chi adroddiad hirfaith gan aderyn bach sy'n methu penderfynu gyda pha dim rhanbarthol mae e.