Roedd rhaid dewis un. Dyw hwn ddim yn ddewis swyddogol, ond mae'n well na'r rhan fwyaf sy'n cael eu cynnig gan 'arbenigwyr' papurau newydd Lloegr:
15 Kevin MorganDechrau ar y fainc ond wedi dod mewn i'r tîm a chynnig gwasanaeth gwych. Llinellau rhedeg deallus a chreadigol.
14 Josh LewseyWedi disgleirio mewn tîm gwan, yn amddiffynnol ac yn ymosodol
13 Brian O'DriscollAchubodd ei dîm rhag embaras yn erbyn Yr Eidal a bron ag achub y dydd yn erbyn Ffrainc.
12 Gavin HensonY gorau o giwed wael yn y safle. Heb wneud llawer yn ymosodol, ond yn aruthrol yn yr amddiffyn, a'i gicio'n rhagorol.
11 Shane WilliamsPo fwyaf maen nhw'n ceisio'i atal, y gorau oll mae'n datblygu.
10 Stephen JonesWedi dysgu sut mae rheoli gêm ac un arall na ildiodd fodfedd i'r gwrthwynebwyr.
9 Dwayne PeelYn dilyn dechrau tawel a phawb yn sôn am Cussiter, fe ddaeth i'r amlwg gyda chwarae craff, deallus.
1 Gethin JenkinsSgrymio cadarn a gwaith rhagorol yn y chwarae agored. Un o'r chwaraewyr mwyaf ffit yn y Bencampwriaeth.
2 Fabio OngaroSafle arall fu'n broblem i'r chwe gwlad. Ongaro sy'n mynd â hi am ei daflu unionsyth a'i chwarae rhydd.
3 Nicolas MasSgrymiwr cadarn a fu'n drech na chwaraewyr rhagorol fu yn ei erbyn.
4 Paul O'ConnellEr gwaethef ei gamweddau yn erbyn Cymru, fe arweiniodd bac Iwerddon yn rhagorol drwy gydol y Bencampwriaeth.
5 Malcolm O'KellyAgos rhwng sawl chwaraewr, gan gynnwys Pelous, Kay, Sidoli, Bortolami a Murray. Rhaid rhoi lle i O'Kelly am ei gysondeb.
6 Serge BetsenBu'n byw ar y llinell gamsefyll am ran fwya'r Bencampwriaeth, ond bu'n hynod effeithiol eto. Enghraifft berffaith oedd y ffordd y dygodd y bêl yn Nulyn ar gyfer y cais buddugol.
8 Martin CorryBrwydr agos arall rhwng Corry ac Owen. Datblygodd Owen (a Taylor) wrthi'r Bencampwriaeth fynd yn ei blaen, ond roedd Corry yn arweiniwr amlwg mewn tîm trafferthus.
7 Martyn WilliamsDim amheuaeth am hyn. Fe wnaeth e bopeth, sgorio ceisiau, arbed ceisiau, chwarae'n ddolen gyswllt, brwydro ar y llawr. Rhagorol.
Eilyddion: Lo Cicero, Byrne, Kay, Owen, Yachvili, Paterson, Murphy