12.4.05

Y Dreigiau

Rwy' newydd glywed sion y bydd y Dreigiau'n cael eu datgan yn fethdalwyr yn y dyfodol agos. Rwy'n mawr obeithio na fydd hyn yn digwydd, oherwydd mae gormod o chwaraewyr o safon gyda ni i'w ffitio mewn i dair rhanbarth. URC sydd biau 50% o'r cyfranddaliadau a Chlwb Rygbi Casnewydd sydd biau'r 50% arall. Mae Moffett wedi datgan yn y gorffennol mai pedair rhanbarth yw'r nifer ddelfrydol, felly mae gobaith na fydd hanes yn ei ailadrodd ei hun...

11 sylw:

Bu Anonymous Anonymous mor hy â thraethu...

'Y gem bwysicaf yn y byd' - mae hynny yn bolycs. Tua 10 gwlad yn y byd sydd yn chwarae'r gem rybish yma. Yn amlwg mae'r blogiwr yma wedi cael ei brainwasho gan yr establishment Cymraeg ac yn chwilio am job hefo HTV neu'r Western Mail.

6:58 pm  
Bu Blogger cridlyn mor hy â thraethu...

Galle ti o leia' gadael dy enw, y llwfryn. Sai'n chwilio am swydd gyda HTV, jyst yn sgwennu am rywbeth sy'n agos at fy nghalon ac sydd, yn fy nhyb i, y gem bwysicaf yn y byd. Os nad oes dim byd adeiladol 'da ti weud, ffyc off a gad fy mlog personol i i fod.

7:26 pm  
Bu Anonymous Anonymous mor hy â thraethu...

So pam wyt ti yn gwahodd sylwadau ta? Efallai bod y gem yn agos at dy galon di a'r Western Mail ond mae'n golygu diawl ddim i mwyafrif y byd. Mae'n typical o'r Cymry cul mynd dros ben llestri am gem ryngwladol leiafrifol tra bod y gwir gem ryngwladol (i.e. y gem brydferth) yn cael ei drin fel person gwahanglwyfus gan y sefydliad Cymreig a wneith bopeth i geisio chwalu a tanseilio'r byd pel droed yma yng Nghymru.

11:21 pm  
Bu Blogger cridlyn mor hy â thraethu...

Beth yn union ydw i fod gwneud am hyn? Dechrau sgwennu am gem nad oes gen i fawr o ddiddordeb ynddi? Ceisio disodli'r 'sefydliad Cymreig'?

Rwy' wedi hen flino ar agwedd cefnogwyr pel-droed sy'n honni mai pel-droed yw Iesu, Duw a Bwda wedi'i rolio'n un achos mai dyna'r gem fwyaf poblogaidd. Os oes gen ti gymaint o chip ar dy ysgwydd, dechreua ymgyrch i waredu'r byd o rygbi.

9:21 am  
Bu Anonymous Anonymous mor hy â thraethu...

Hang on am funud, dilynwyr y byd rygbi yng Nghymru sydd yn honni mai nhw yw'r Iesu, Duw a Bwda wedi'i rolio'n un. Nid pob Cymro sydd wedi cael ei frenwasho gan y cyfryngau a'r sefydliad yng Nghymru, fel sy'n amlwg wedi digwydd i ti. Dim ots gen i os wyt ti yn gefnogwr rygbi, gwisgo fyny fel dynas ar benwythnosau neu hyd yn oed gwnio - pawb yn rhydd i wneud beth mae nhw eisiau. Yr hyn ydwyf yn dweud mae na lawer ohonom sydd methu dioddef rygbi ac eisiau gwneud hynny i'r sawl un sydd yn methu gweld bod yna Gymry yn methu dioddef y gamp!

3:17 pm  
Bu Blogger cridlyn mor hy â thraethu...

Felly pam wyt ti'n dod i flog rygbi i gwyno am y peth? Os wyt ti'n methu dioddef rygbi, pam wyt ti'n cwyno wrtha' i?

Dydw i heb gael fy 'mrenwasho' fwy nag wyt ti yn dilyn pel-droed. Mae 'na draddodiad hir o ddilyn rygbi yng Nghymru, ac rwy' wedi bod yn dilyn y gem ers oeddwn i'n grwt.

Nag wyt ti hefyd wedi sylweddoli, os nad wyt ti'n hoff iawn o bel-droed, ei bod hi'n anodd osgoi'r gamp honno hefyd? Papurau newydd, rhaglenni teledu, hysbysebion - a phel-droed Lloegr yn aml iawn yw hynny hefyd. Mae'n rhaid i ti ymdopi â'r ffaith bod y cyfryngau wedi troi at rygbi ar hyn o bryd am mai dyna sydd ym meddyliau pobl. Criw gwamal y'n nhw, nid y gwir gefnogwyr, felly unwaith y bydd y tim pel-droed yn llwyddiannus, fe gewch chi'ch moment, fel y'n ni'n cael ein moment.

3:44 pm  
Bu Anonymous Anonymous mor hy â thraethu...

Fedra i ddim dioddef yr holl heip am bel droed Lloegr mae'n anioddefol ond fedra i hefyd ddim dioddef yr holl heip am rygbi sydd yn cael ei orfodi gan y cyfryngau yng Nghymru. Prif stori Newyddion HTV noson o'r blaen oedd y British Lions. For ffoc's sec! Dim yn amau nad yw'n ddigwyddiad pwysig iawn - ond haeddu ei le fel prif stori newyddion? Na dwi ddim yn meddwl. Mae angen i'r cyfryngau fel yr Western Mail a HTV roi sylw teg i bel droed Cymru hefyd - mae hwn yn dim gwirioneddol ryngwladol.

6:25 pm  
Bu Blogger cridlyn mor hy â thraethu...

Rwy'n credu bod strwythur pel-droed yn rhannol ar fai am hyn. Prin bod 'slant' Cymreig yn perthyn i stori sy'n ymwneud â phel-droed, tra bod llawer yn fwy o ddeunydd Cymreig sy'n ymwneud â rygbi. O safbwynt y cyfryngau, y pethau pwysig i'w trafod yng nghyswllt pel-droed yw materion yr Uwch Gynghrair yn Lloegr.

Enghraifft berffaith ar y Post Cyntaf bore 'ma. Tair stori bel-droed yn y darn chwaraeon:
1) Lerpwl yn trechu Juventus
2) Wrecsam yn cyrraedd rownd derfynol y Cwpan Cenedlaethol
3) TNS yn bencampwyr Cynghrair Cymru
Mae Cynghrair Cymru'n cael ei sgubo dan y carped am nad yw'n cael ei ystyried yn ddigon pwysig.

Mae angen i'r gynghrair genedlaethol gryfhau er mwyn rhoi hunaniaeth Gymreig gref i bel-droed. Fel arall, gall y cyfryngau gyfiawnhau anwybyddu pel-droed, am nad oes slant Cymreig yn perthyn iddo.

9:25 am  
Bu Anonymous Anonymous mor hy â thraethu...

Wyt ti wedi meddwl pam fod y cyfryngau Cymreig yn anwybyddu pel droed Cymru yn y modd hyn? Tybed a ydi'r rygbi taffia (y cyfryngau a'r sefydliad) ofn rhoi gormod o sylw i'r gem genedlaethol gan y gwyddai pawb y byddai'n bygwth dyfodol rygbi.

Ac er fod gwendidau amlwg o fewn Uwch Gynghrair Cymru o leiaf y mae'n cynnwys clybiau o dros Gymru gyfan. Tydi rygbi ddim. Y gem genedlaethol? My arse! Rygbi yw gem yr M4 coridor!

12:52 pm  
Bu Blogger cridlyn mor hy â thraethu...

Mae rygbi a phel-droed wedi bod rownd gyhyd â'i gilydd ac mae'r ddwy gem yn dal i ffynnu, felly sai'n credu fod dy ddadl di'n dal dwr.

A phwy yn union felly yw Clwb Rygbi Caernarfon, Clwb Rygbi Wrecsam, Clwb Rygbi Dolgellau, Clwb Rygbi Aberhonddu, Clwb Rygbi Crymych? Oce, dim ond yn y de mae'r gem yn cael ei chwarae ar y lefel uchaf, ond mae pyramid yn bodoli mewn rygbi.

Fyddwn i ddim yn bod mor hy â dweud mai rygbi yw'r gem genedlaethol, fel sy'n cael ei ddweud gan lawer. Mae gennym ni ddwy gem genedlaethol sydd ill dwy yn cael sylw ar wahanol adegau. Rygbi sy'n cael y sylw ar hyn o bryd am mai dyna lle mae'r llwyddiant.

1:47 pm  
Bu Anonymous Anonymous mor hy â thraethu...

Tydi clybiau'r gogledd ddim yn chwarae ar y lefel uchaf fodd bynnag ac mewn sawl achos esgus i feddwi a dangos eu tinnau'n wythnosool yw holl bwrpas ymuno gyda'r clwb rygbi.

>Rygbi sy'n cael y sylw ar hyn o bryd am mai dyna lle mae'r llwyddiant.

AC HEFYD YN MYND I GAEL Y SYLW GAN FOD Y SEFYDLIAD YN MYNNU EI ORFODI LAWR CORN GWDDW PAWB!

5:08 pm  

Post a Comment

<< 'Sha thre, 'chan