5.4.05

Dathliad yn y Stadiwm

Wel, nid gorymdaith fws gawn ni i ddathlu'r Gamp Lawn wedi'r cyfan, ond rhyw 'gyngerdd' ceiniog a dime yn Stadiwm y Mileniwm, meddai'r Guardian. Ac wrth gwrs, bydd y diawled yn codi tâl ar bobl i fynychu'r digwyddiad.

Er gwaetha'r ffaith eu bod nhw'n dweud y bydd yr arian hwn yn mynd at elusen, rhaid mynegi fy aniddigrwydd. Beth am wneud rhywbeth lle bydd pawb yn gallu dod a dathlu, yn lle gwneud rhywbeth cyfyng i hybu eu proffil eu hunain? Beth am y bobl dlotach mewn cymdeithas fydd yn methu fforddio dod i'r stadiwm ar gyfer y dathliad? A faint o Gymraeg fydd yn y digwyddiad i adlewyrchu'r ganran o siaradwyr Cymraeg sydd wedi mynychu'r gemau yn ystod y Gamp Lawn?

Trist iawn eu bod nhw wedi colli'r cyfle hwn i gael dathliad gwirioneddol ar hyd strydoedd Caerdydd, Caerfyrddin a Chaernarfon. Ro'n i'n gwbod bod disgwyl trefniant gan URC yn freuddwyd gwrach.