8.4.05

Y Gleision

Rwy'n mynd i weld y Gleision yn wynebu Ulster. Dydw i erioed wedi 'nghyfri fy hun yn gefnogwr, ond rwy' wedi dechrau mynychu'r gemau yn ddiweddar, yn rhannol am fy mod i'n cael eu gweld nhw am ddim (mae ffrindiau i fi'n rhentu ar Westgate Street), ond hefyd am fy mod i'n mwynhau'r awyrgylch.

Mae'n gêm hollbwysig i'r tim, gan eu bod nhw bum pwynt tu ôl i Connacht ac wyth pwynt y tu ôl i Ulster yn y frwydr am le yn y gêm ail gyfle yn y trydydd tim. Yn syml, rhaid iddyn nhw ennill heno, ennill wythnos nesa', a gobeithio y bydd y ddau arall yn methu yn eu gemau nhw (y Gweilch a'r Dreigiau sydd gan Connacht a'r Sgarlets gartref yw gêm olaf Ulster).

Y tîm fydd Macleod, Czekaj (da ei weld e'n cael ei gyfle), Rh Williams, Shanklin, Morgan, Robinson, Powell, Yapp, Williams, Quinnell, Sidoli, Sowden-Taylor, Schubert, Williams. Felly, gydag un neu ddau eithriad, dyma yw tîm cyntaf y Gleision. Does dim esgus dros golli, yn enwedig o ystyried y ffars yn Iwerddon lle mae Undeb Rygbi Iwerddon eisoes wedi dewis Ulster ar gyfer y Cwpan Heineken! Am beth maen nhw'n chwarae erbyn hyn? Y Cwpan Celtaidd? Woo!