28.4.05

Rodney, you plonker!

Nos fory, fe fyddaf yn ymweld â Rodney Parade am y tro cyntaf ers i rygbi 'rhanbarthol' ddechrau yno. A dweud y gwir, sai'n credu 'mod i wedi bod 'na unwaith i weld gêm o rygbi, felly newidiwch hynna i 'fe fyddaf yn ymweld â Rodney Parade am y tro cyntaf'. Yr achlysur fydd rownd gogynderfynol y Cwpan Celtaidd, cystadleuaeth sydd ar farw os yw'r cynlluniau am y Bencampwriaeth Eingl-Gymreig am fynd rhagddynt.

Hoffen i fod wedi mynychu'n gynt, ond fel ydw i a gweddill pobl Gwent yn ei wybod, er gwaethaf gweniaith Martin Hazell, Casnewydd sydd mewn grym yn y rhanbarth, gan beidio â gwneud unrhyw ymdrech i gynnwys gweddill Gwent yn y set-yp.

Gobeithio'n fawr, felly, y byddaf yn gallu clenshian fy nannedd drwy'r bloeddiadau 'Nooooopo-ort, Nooooopo-ort' a chael rhyw fath o syniad o sut mae rygbi rhanbarthol yn gweithio lawr ar y Dave, ac os oes unrhyw obaith am y dyfodol. Sai'n dal fy ngwynt, cofiwch.

6 sylw:

Bu Blogger Chicken Legs, Twm and The Kid mor hy â thraethu...

Ma Rodney Parade yn le gwych i fynd i weld gêm, yn fy atgoffa o'r hen 'House of Pain' ym Mhontypridd. Mi o ni'n arfer mynd yn aml pan o ni yn y Brifysgol yng Nghasnewydd. Mi odd tŷ y wejen reit drws nesa i Rodney 'fyd felly wedi cwpwl o beints ar ôl gêm dodd dim pell da fi sdagyro.

2:18 pm  
Bu Blogger cridlyn mor hy â thraethu...

Yffach gols! John pwy? Sai'n gallu cofio'r un John yn fy nysgu i... Ymmmmmmm... *dryswch*

Unrhyw gliwiau? Ife ym Mhengam/Trelyn neu yng Ngwynllyw?

7:08 pm  
Bu Anonymous Anonymous mor hy â thraethu...

Ti wedi cael y neges felly. (Doeddwn i ddim yn siwr os oedd popeth yn gweithio'n iawn.) Dim eisiau sgwrsio yn rhy agored dw i, ond mae´n wir hefyd nad ydw i ddim eisiau bod yn pain in the neck chwaith. Flynyddoedd yn ol oedd hi - dw i ddim yn credu dy fod ti´n gallu nghofio i - ond dw i´n dy gofio di´n berffaith dda. bachgen reit glyfar oeddet ti. Wyt ti´n cofio field marshal archibald? cliw bach yno. a dw i´n cofio stori wil a´r ddraig hefyd, ond wel flynyddoedd yn ol yw hi nawr. dw i'n byw rywle ar y cyfandir. Dw i ar fy ngwyliau - dim plant gwirion i boeni amdanynt! - ac yn hapus gweld dy fod ti´n YSGRIFENNU pethau; rhaid dechrau rywle on'd oes, a roedd na signs bach o hyn... flynyddoedd yn ol ym ?.

6:29 am  
Bu Blogger cridlyn mor hy â thraethu...

Mr Jones Safon Dau? Aeth i Ffrainc?

9:18 am  
Bu Anonymous Anonymous mor hy â thraethu...

Got it in one!
Da iawn iti. Dw i ddim yn byw yn Ffrainc nawr (wedi gadael gwlad y ffrogs legs yn 2002) mais je parle couramment la langue, bien evidemment, he hon he hon he hon (ai fel na mae´n rhaid sgwennu, ´sa i ddim yn siwr).
SUT allwn i dy anghofio di, dw i ddim yn gwybod. Roeddet ti´n fachgen a oedd yn wastad yn MEDDWL am bopeth a phob dim. A´r plant eraill wrth gwrs, mae´r enwau´n dod yn ol... yn araf... (ond dw i ddim eisiau bod yn boring felly dim list anniddorol). Mae´r amser yn mynd heibio´n gyflym dros ben. Rown i´r un oedran a thi nawr pan oeddwn i´n rhoi gwersi i ti! Putain de merde! (Paid a chwilio hynny yn y dicshionari. Wedi dweud hynny, mae´r gair putain yn union fel yn y Gymraeg, ac mae hyd yn oed rhywun o Siberia yn gwybod be mae merde yn ei olygu. Felly...)
A beth ti ´n wneud gyda dy fywyd di? Wedi darllen dy flogs dw i - rown i´n siwr byddet ti´n sgrifennu yn ddiweddarach. Dal ati!

10:23 am  
Bu Blogger cridlyn mor hy â thraethu...

Rhys Gilbert, Nyree Hughes, Becky Davies, Shelly Turner, Jason Tatton, Tyrone Price, Daniel English, Daniel Griffiths (o'n i byth yn gallu diodde' Daniel ar y pryd, ond fe ddaethon ni'n ffrindie mawr yn y chweched yng Ngwynllyw)...

Fi'n gweithio i gwmni cyfieithu yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yn dilyn gradd mewn Saesneg a Theatr yn Warwick. Dyna ni wir, heblaw sgwennu gwahanol bethe.

12:58 pm  

Post a Comment

<< 'Sha thre, 'chan