Rodney, you plonker!
Nos fory, fe fyddaf yn ymweld â Rodney Parade am y tro cyntaf ers i rygbi 'rhanbarthol' ddechrau yno. A dweud y gwir, sai'n credu 'mod i wedi bod 'na unwaith i weld gêm o rygbi, felly newidiwch hynna i 'fe fyddaf yn ymweld â Rodney Parade am y tro cyntaf'. Yr achlysur fydd rownd gogynderfynol y Cwpan Celtaidd, cystadleuaeth sydd ar farw os yw'r cynlluniau am y Bencampwriaeth Eingl-Gymreig am fynd rhagddynt.
Hoffen i fod wedi mynychu'n gynt, ond fel ydw i a gweddill pobl Gwent yn ei wybod, er gwaethaf gweniaith Martin Hazell, Casnewydd sydd mewn grym yn y rhanbarth, gan beidio â gwneud unrhyw ymdrech i gynnwys gweddill Gwent yn y set-yp.
Gobeithio'n fawr, felly, y byddaf yn gallu clenshian fy nannedd drwy'r bloeddiadau 'Nooooopo-ort, Nooooopo-ort' a chael rhyw fath o syniad o sut mae rygbi rhanbarthol yn gweithio lawr ar y Dave, ac os oes unrhyw obaith am y dyfodol. Sai'n dal fy ngwynt, cofiwch.