18.2.05

Glaswellt gwych

Os oes digon o arian gyda chi, gallwch chi geisio prynu'r llecyn lle sgoriodd Shane Bach ei gais a lle ciciodd Henson ei gic mewn ocsiwn arbennig i godi arian ar gyfer Cronfa Toby Lloyd Cockbain.

Achos gwerth chweil, ond sut fyddwch chi'n cadw'r borfa'n fyw?

1 sylw:

Bu Blogger Gary mor hy â thraethu...

Mae Gwesty Bro Morgannwg wedi cynnig £275 am y darn lle ciciodd Gavin Henson ei gic gosb: "They are keen to house the turf outside the main entrance and use it as a constant reminder to the Welsh team ... of one of the greatest days in Welsh rugby history."Un o ddiwrnodiau gorau yn hanes rygbi Cymru? Be? buddugoliaeth o un pwynt yn erbyn tîm gwanaf y Saeson ers blynyddoedd?
Dyma'r rheswm pam fo pobl fel fi yn casau'r gamp a'r holl cachu tarw sydd yn mynd yn ei sgîl.

1:57 pm  

Post a Comment

<< 'Sha thre, 'chan