Wedi'r chwyldro
Wel, sai'n hollol siwr beth i'w ddweud. Rwy'n dal i fynd dros y gic yn fy mhen dro ar ol tro. Roedd y teimlad ar ddiwedd y gem yn un hollol wych, teimlad nad ydw i wedi'i gael wrth wylio Cymru ers tro byd. A'r hyn sy'n coroni'r cyfan yw mai ni oedd yn haeddu ennill. Fe frwydrodd y pac drwy'r prynhawn, yn aml yn drech na phum blaen anferthol Lloegr. Roedd mwy o sbarc a chreadigrwydd yn perthyn i'n holwyr ni. Iawn, fe fuom ni ond y dim a'i cholli hi, achos fe lwyddodd Lloegr i ddod nol mewn i'r gem, yn enwedig ar ol eilyddio Mathew Tait a dod ag Olly Barkley ymlaen. Ond ni oedd paiu'r fuddugoliaeth achos, fel y dywed Eddie Butler, yn wahanol i'r ffordd mae pethau wedi digwydd yn ddiweddar, fe lwyddon ni i chwarae ychydig bach yn llai pert ac ennill, yn lle bod yn rhy garedig a rhoi'r fuddugoliaeth i'r gwrthwynebwyr.
Ond peidied â bod yn hunanfodlon. Fel y dangosodd yr Eidal ddoe, ni allwn ni ddisgwyl mynd i Rufain a chael buddugoliaeth awtomatig bellach. Mae'r gwaith caled ond megis dechrau. Mae hwn yn gam pwysig, ond ddim yn un y dylen ni orffwys arno.
Gol - ymddiheuraf am fy ngwaith diog parthed rhoi dolenni i dudalennau Cymraeg y BBC.
3 sylw:
Go dda, Cymru. Gan obeithio na fydd yr heip yn arwain at gwymp hyd yn oed yn fwy tro yma.
Gyda llaw, beth oedd o'i le â:
http://www.bbc.co.uk/cymru/chwaraeon/rygbi/rhyng/104556.shtml
;-)
re.gol
diolch!
Dim ond tynnu coes oeddwn i - doedd dim angen ymddiheuriad swyddogol ;-)
Fel fi'n gwbod shwt mae ego bois y Beeb, felly o'n i ddim am bechu... ;-)
Post a Comment
<< 'Sha thre, 'chan