17.2.05

Trechu'r touts

Ymddengys bod bosys rygbi Cymru yn dechrau sylweddoli bod touts yn bodoli a'u bod nhw'n difetha rygbi i'r cefnogwyr arferol. Hefyd, ymddengys bod y clybiau'n dechrau sylweddoli bod eu systemau nhw rhywbeth i wneud â'r broblem. Dyma lythyr a anfonwyd gan 'ranbarth' Gleision Caerdydd at eu cefnogwyr, ar eu gwefan.

Cael eu gwrthod rhag cael tocyn tro nesaf? Felly maen nhw wedi cael getawe tro 'ma, byddan nhw'n cael getawe tro nesaf, ond y tro wedyn, ho ho ho, dim gobaith caneri, gwboi! Mae'n rhaid i URC a'r rhanbarthau/clybiau weithredu nawr i atal hyn. S'dim gobaith gyda fi o gael tocyn i un o'r gemau yn Stadiwm y Mileniwm yn y bencampwriaeth hon, ac er fy mod i'n mynd i deithio i Baris a Chaeredin, s'dim sicrwydd y bydda' i'n cael gafael ar docyn ar gyfer y naill gem pan fydda' i yna.

A beth am hyn, ar gyfer gem Iwerddon yn erbyn Lloegr!

1 sylw:

Bu Blogger Gary mor hy â thraethu...

Mae'r sustem o ddosbarthu tocynnau rygbi wedi bod yn warth erioed.

Pam diawl fod y clybiau yn cael cmaint o docynnau - dwi'n gwybod am ffaith am o leiaf dau glwb rygbi yn y gogledd sydd yn gwerthu eu tocynnau i unrhyw un sydd yn cynnig digon o bres.

10:32 am  

Post a Comment

<< 'Sha thre, 'chan