4.2.05

Mwy o llenwi nhrons (mewn teyrnged i Joni)

Wel, mae'r awr yn dyngedfennol yn nesau. Sai'n gallu meddwl am unrhyw beth arall ar hyn o bryd. Sut fydd Gethin Jenkins yn ymdopi â sgrymio Julian White? A fydd ein pump blaen ni'n ymdopi â maint eu un nhw? Pwy fydd yn drech o'r ddwy reng ôl? A fydd ein 'gamebreakers' (Peel, Shane a Henson) yn disgleirio? Ydy Thomas a Luscombe yn rhy araf o gymharu â Cueto, Lewsey a Robinson?

Mae pob posibilrwydd wedi bod yn troelli rownd fy mhen ers pythefnos a mwy, a'r unig beth i wneud nawr yw gwylio'r gêm. Ond bydde'n well 'da fi gymryd anaesthetic am gwpwl o oriau a chael gwybod y canlyniad wedi 'ny yn lle mynd trwy'r artaith...

1 sylw:

Bu Blogger Gary mor hy â thraethu...

"Ond bydde'n well 'da fi gymryd anaesthetic am gwpwl o oriau a chael gwybod y canlyniad"

a fi ... a fi!!!

12:19 pm  

Post a Comment

<< 'Sha thre, 'chan