Ie, dyna a ddywed yr
Observer yn adroddiad hurt y papur o gem dydd Sadwrn ddoe. A hyn gan Sais. Anhygoel. Bron mor anhygoel â pha mor pisd off oedd Guscott a Johnson ddoe ar Grandstand, yn methu credu bod y Ffrancod wedi bod mor hy ag ennill gem drwy giciau'n unig. O mor hawdd y mae'r cof yn pallu, ife bois? A chlod mawr i Jonathan Davies am eistedd drwy'r cyfan gyda dim mwy na gwen enfawr ar ei wyneb, er ei bod hi'n amlwg fwy nag unwaith ei fod e ar fin byrsto mas yn chwerthin.
Felly, beth yw'r asesiad yn dilyn y penwythnos? Wel, roedd hi'n benwythnos da i Gymru yn amlwg. Am yr ail Sadwrn o'r bron fe lwyddwyd i oresgyn pac yr oedd llawer yn tybio oedd yn rhy gryf i ni. Oce, am hanner awr (ugain munud olaf yr hanner cyntaf a deg munud cyntaf yr ail hanner), roedd y perfformiad yn bell o fod yn wych, er gwaethaf heip a honiadau'r
Western Mule. Roedd camgymeriadau yn frith yn y perfformiad pan oedden ni'n chwarae fel roedd yr Eidal am i ni chwarae, ei chadw'n dynn ymysg y blaenwyr, ond unwaith i ni ledu'r bel, daeth yr ornest i ben yn go gyflym. Ry'n ni wedi dangos bod gennym ni'r olwyr gorau yn y bencampwriaeth, gyda cymysgedd dda, fel y dywedodd Will Greenwood, o chwaraewyr cadarn fel Jones, Shanklin a Thomas, a chwaraewyr ag ychydig o sbarc, fel Williams, Henson a Peel. Dyma'r gem i'w chwarae yn erbyn Ffrainc, a oedd yn siomedig uffernol yn erbyn Lloegr.
Yn dilyn y ddwy gem agoriadol, sai'n poeni gymaint rhagor am fygythiad Ffrainc. Oni bai bod Laporte yn cael gwared ar y gwachul Yann Delaigue ac yn dewis y gwych Frederic Michalak, does dim byd yn perthyn i linell ol Ffrainc sy'n gwneud i fi feddwl y bydd ein llinell ol ni o dan bwysau. Felly, er 'mod i'n rhoi'r cart o flaen y ceffyl, buddugoliaeth ym Mharis ydw i'n ei ddarogan.
Yn olaf, Iwerddon. Cafwyd perfformiad grymus ganddyn nhw lan yng Nghaeredin. Os oedd olwyr Cymru'n wych yn erbyn yr Eidal, y perfformiad rhagorol arall oedd pac Iwerddon. Llwyddwyd i oresgyn y braw cynnar, a rhoi'r Alban dan bwysau uffernol ym mhob agwedd ar y chwarae. Mae hyn o fantais i ni, gan nad ydw i'n meddwl y bydd mynd i Gaeredin mor wael ag oeddwn i'r wythnos diwethaf, ond rwy'n dechrau poeni'n uffernol am y gem dyngedfennol (o bosib) yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd. Maen nhw'n edrych yn dda. Yn dda iawn.
Ond mynd o flaen gofid yw hynny, ond mae'n arwydd mai hyder tawel sydd 'da ni, nid 'arrogance', diolch yn fawr. Felly am nawr, rwy'n mynd i fwynhau'r ystadegyn canlynol...
1 Iwerddon 2 0 0 +38 4
2 Cymru 2 0 0 +32 4 3 Ffrainc 2 0 0 +8 4
4 Lloegr 2 0 0 -3 0 5 Yr Alban 2 0 0 -34 0
6 Yr Eidal 2 0 0 -41 0
All dyn ddim gofyn am ddechreuad gwell.