10.11.05

Yappy!

Cefais fy synnu, o ddarllen yr erthygl yn fan hyn (mae'r frawddeg braidd yn ddryslyd, gan awgrymu mai dyma fydd y gêm gyntaf i Rhys Thomas ei dechrau, ond fe ddechreuodd e yn erbyn Canada yn yr haf), mai'r ornest yn erbyn Fiji nos fory fydd y gêm gyntaf i John Yapp ei dechrau dros Gymru. "Does bosib bod hyn yn wir?" meddylies i, ond, o edrych ar scrum.com, ymddengys fod hyn yn wir.

Mae'n dangos gymaint mae natur y gêm wedi newid o ran defnyddio eilyddion, lle rwy'n gallu ystyried Yapp yn chwaraewr rhyngwladol 'sefydlog', pan mai dim ond rhyw 120 munud o rygbi rhyngwladol mae'r boi wedi chwarae, sef gem a hanner yn unig!