22.11.05

Lansiad 'Call to Arms'

Heno bydd Call to Arms, ymddiriedolaeth i wasanaethu buddiannau Clwb Rygbi Caerdydd, yn cael ei lansio'n ffurfiol mewn cyfarfod am 8pm yn y clwb ei hun. Ffrwyth llafur 11 mis yw'r fenter, sydd bellach yn endid cyfreithiol. Dyma'r drydedd fenter o'i math yn y byd rygbi, yn dilyn Bryste a Chasnewydd. Daw hyn yn dilyn mesurau sydd, ym marn cefnogwyr y clwb, wedi israddio statws Clwb Rygbi Caerdydd a'i rôl yn rhanbarth Gleision Caerdydd.

In October 2004, Cardiff RFC ltd entered into a 5 year Operating Agreement with the Welsh Rugby Union which formally incorporated the enlarged region to include Rhondda Cynon Taf, Merthyr and South Powys. Cardiff RFC ltd are bound by the terms of that Agreement and these terms mean that Cardiff RFC is no more important (in terms of the Agreement) than any of the other 55 clubs in the region.

Call To Arms is bound by no such agreement and is a Supporters' Trust for Cardiff Rugby, which includes Cardiff RFC and Cardiff Blues. The Trust will be a shareholder in Cardiff RFC ltd and will seek to influence the policy of the company by using that shareholding. We hope that any conflicts will be minimised.

Er mai Clwb Rygbi Caerdydd sy'n berchen yn llwyr ar ranbarth y Gleision, beth yn union fydd hyn yn ei wneud i dawelu pryderon cefnogwyr o'r cymoedd a'u cynnwys mewn rhanbarth sydd eisoes yn ymddangos yn elyniaethus iddyn nhw ar ei ffurf bresennol?

Pob lwc i'r fenter serch hynny. Mae llwyddiant sawl ymddiriedolaeth o'r fath yn y byd pêl-droed wedi dangos mai llwyddiant sy'n dilyn pan mai pobl sydd â gwir gariad at eu clybiau sy'n gyfrifol am eu rhedeg.