7.11.05

Dulyn 2006

Reit, fi wedi penderfynu anwybyddu blip bach dydd Sadwrn (oce, yn gryno, tystiolaeth o'n diffyg dyfnder yn fwy na dim, yn hytrach na gwendid cyffredinol yn ein ffordd o chwarae oedd yn gyfrifol, a'r ffaith fod Seland Newydd yn wych ar hyn o bryd - cymharer ein diffyg cloeon a chanolwyr o gymharu â nhw...) ac yn hytrach sôn am y ffaith y bydda' i'n mynd i Ddulyn i wylio Cymru yn 2006!

Unwaith o'r blaen fi wedi bod 'na, bedair blynedd yn ôl, pan gollon ni o 54-10, felly fi'n eitha' siwr y bydd pethe ychydig yn well tro 'ma. Dyna'i gyd mae'n rhaid neud nawr yw aros i Sail Rail agor eu drysau i gael bwcio'r daith, gan mai dim ond yr hostel sydd wedi'i fwcio.