Cymru'n ail!
Beth bynnag ddywed Paul Rees a'i ymennydd blacmange, mae'r ystadegau'n dangos mai Cymru oedd yr ail dim gorau yn y byd yn 2005, sef yr unig dim i ddod yn agos at record y Crysau Duon.
Cymru
(Safle byd 6, safle 2005 2)
Chwaraewyd: 11 - 6 gartref, 5 oddi cartref
Ennillwyd: 9 (81.8 y cant), buddugoliaethau gartref 4 (66.7 y cant), buddugoliaethau oddi cartref 5 (100.0 y cant)
Collwyd: 2 (18.2 y cant), colli 2 gartref (33.3 y cant)
Buddugoliaethau pwysicaf: Lloegr, Ffrainc, yr Alban, Iwerddon (Chwe Gwlad), Awstralia (Tachwedd)
Colled mwyaf arwyddocaol: Seland Newydd, De Affrica (Tachwedd)
Pwyntiau o blaid 342, pwyntiau yn erbyn 189 (cyfartaledd fesul gem 31-17)
Ceisiau o blaid 41, ceisiau yn erbyn 21 (cyfartaledd fesul gem 4-2)