3.10.05

Timau Cymru dros y penwythnos

Wel, ar ol yr holl son a'r helbul ynghlwm wrth y Cwpan Powergen, fe gafwyd y penwythnos agoriadol yn y Cwpan Powergen. Un llwyddiannus dros ben i dimau Cymru, gyda'r Dreigiau'n curo Caerlyr (treulio'r Dreigiau? trailing the Dragons?), y Gleision yn curo Saracens (hmmm, cyfieithiad heb ei gwblhau), a'r Sgarlets yn curo Leeds (cyfieithiad heb ei wneud). Yr unig fethiant oedd y Gweilch yn colli yn erbyn Caerloyw (cyfieithiad go lew pan y'n ni'n colli...), ond roedd honna wastad yn mynd i fod yn gem anodd.

Fodd bynnag, un peth wnaeth fy nharo i, er gwaetha'r hefru gan y Saeson am y diffyg dyfnder yn ein gem ni, oedd cyn lleied o Saeson chwaraeodd yn erbyn timau Cymru. Dyma'r ffigurau...

Dreigiau: 14 Cymro, 1 ddim yn Gymro
Caerlyr: 12 Sais, 3 ddim yn Sais

Y Gleision: 14 Cymro, 1 ddim yn Gymro
Saracens: 9 Sais, 6 ddim yn Sais

Sgarlets: 12 Cymro, 3 ddim yn Gymro
Leeds: 8 Sais, 7 ddim yn Sais

Gweilch: 14 Cymro, 1 ddim yn Gymro
Caerloyw: 12 Sais, 3 ddim yn Sais

4 sylw:

Bu Blogger Gary mor hy â thraethu...

Problemau technegol sy'n gyfrifol am ddiffyg adroddiad y Sgarlets (ac unrhyw ypdêts heddiw)

2:49 pm  
Bu Blogger cridlyn mor hy â thraethu...

Nid dig personol ato ti oedd hyn, ond yn hytrach dig at ddiffyg darpariaeth y BBC drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae angen mwy nag un aelod o staff i ddweddaru hyn i gyd!

2:55 pm  
Bu Blogger Gary mor hy â thraethu...

No Comment ys dywed y Sais.

Ond mae problemau technegol wedi golygu nad oedd y camgymeriadau yn cael eu newid - rwy'n gobeithio byddent yn dod trwy'r system unwaith bo'r bugs wedi eu canfod ;)

3:03 pm  
Bu Anonymous Anonymous mor hy â thraethu...

ewadd, go dda

11:41 pm  

Post a Comment

<< 'Sha thre, 'chan