11.10.05

Dylan Ebenezer, cau hi

Oes unrhyw un arall fel fi wedi hen flino ar digs bach Dylan Ebenezer at rygbi bob tro fydd e ar Radio Cymru? Unwaith eto bore 'ma, cafwyd rhyw sylw bach slei ganddo am y ffaith fod stori Gavin Henson, newyddion heddiw, wedi cael blaenoriaeth yn y Mule o flaen gem bel-droed Cymru v Azerbijan, newyddion fory. Hen bryd iddo fe sylweddoli fod 'na filoedd o bobl yn ne Cymru, prif ardal y papur, â safbwynt ychydig yn wahanol iddo fe, a hyd yn oed os yw e moyn beirniadu rygbi, nid newyddion y bore yw'r lle i wneud hynny.

2 sylw:

Bu Blogger Ifan Morgan Jones mor hy â thraethu...

Os nad yw'n deall pa gem sydd fwyaf at flas y Cymru geith o gymharu'r nifer o bobl aeth i weld Cymru neithiwr a'r nifer fydd yn mynd i weld gem Seland Newydd. ;)

12:30 pm  
Bu Anonymous Anonymous mor hy â thraethu...

Chwarae teg iddo fo. Ffyciwch eich rygbi.

A Mordicai (neu yntau Criddle cud) wyt ti yn sylweddoli bod y gem yn erbyn Azerbaijan yn ddiwerth. Roedd y lle yn llawn dop ar gyfer gem Lloegr os cofia di a gemau yn erbyn y gwledydd 'mawr'. Os yw rygbi gymaint at flas y Cymru (sic) pan ffwc yr oedd seddi gwag mewn gemau yn erbyn Siapan a Romania a hyd yn oed De Affrica y llynedd.

7:36 pm  

Post a Comment

<< 'Sha thre, 'chan