14.9.05

Joe Worsley - twpsyn

Sai'n meddwl rhyw lawer ohono fe fel chwaraewr, ond mae Joe Worsley wastad yn neud i fi chwerthin pan mae'n ymddangos yn y cyfryngau. Mae e'n amlwg yn berson plentynaidd a chwerw iawn, am y ffaith nad yw e cystal â chwaraewyr diweddar Lloegr, na chystal â'r rhan helaeth o chwaraewyr rheng ol rhyngwladol presennol (gan gynnwys rheng ol yr Alban a'r Eidal). Y tro 'ma, mae e wedi bod yn malu cachu yn y Grauniad...

"The standard of Six Nations last season was terrible. Wasps or Leicester could have won it. That's not a big comment. They would have won it easily because the standard of the competition was so bad. There needs to be a sea-change in how we approach games."

3 sylw:

Bu Blogger Rhys Wynne mor hy â thraethu...

Dave Thompson, perchennog Newcastle Falcons yn y Gurardian heddiw yn argymell cael gwared o'r Llewod a rhannu'r Chwe Gwlad i ddau adran:

http://sport.guardian.co.uk/rugbyunion/story/0,10069,1571493,00.html

4:08 pm  
Bu Blogger cridlyn mor hy â thraethu...

O'n i'n ystyried blogio hwnna. Ond na fydde Lloegr yn yr ail adran? ;-)

4:32 pm  
Bu Anonymous Anonymous mor hy â thraethu...

A roedd safon y cwpan Heineken mor wael gallasai Wasps neu Leicester wedi'i ennill...

wps...

7:16 pm  

Post a Comment

<< 'Sha thre, 'chan