9.5.05

Wel shwmai, yr hen ffrind

Mae dros wythnos wedi pasio ers i fi flogio fan hyn ddiwethaf, ac fel mae'r hen ddywediad yn ei ddweud, mae wythnos yn amser hir mewn rygbi. Oce, mewn gwleidyddiaeth, ond sai moyn trafod gwleidyddiaeth yng ngoleuni'r hyn ddigwyddodd ddydd Iau. Felly, dyma, yn gryno, sydd wedi digwydd yn y byd rygbi...

* Bu i'r Harlequins, gyda 'world class Will Greenwood', ddisgyn allan o'r brif adran yn Lloegr. Mae Will Carling yn hollol gyted. Ha ha ha!

* Cafodd carfan Cymru ei gyhoeddi, sef K Morgan, R Williams, C Czekaj, C Morgan, T Selley, M Taylor, M Watkins, C Sweeney, M Jones, N Robinson, M Phillips, A Williams;
D Jones, J Yapp, B Broster, A Jones, M Davies, R Thomas, M Rees, L Charteris, B Cockbain, I Gough, R Sidoli, C Charvis, R Jones, R Pugh, R Sowden-Taylor, J Thomas, A Popham. Ro'm i'n hanner disgwyl gweld enw Chris Horsmann yna, ond da gweld Ruddock yn dewis chwaraewyr sydd moyn chwarae i Gymru, nid rhywun sy'n hwrio'i hun rhwng dwy wlad.

* Gwireddwyd yr anochel wrth i Wilkinson gael ei enwi yng ngharfan Lloegr. Doedd Duncan Jones ddim yn ddigon da er ei fod wedi chwarae rhan fwya'r tymor, ond mae rhywun sydd wedi chwarae tua mil o funudau o rygbi mewn blwyddyn a hanner yn iawn i fynd. Mae rhesymeg yr Arglwydd Moel yn anhygoel...

* Ac yn olaf, drym rol cyflym i gyflwyno'r rownd derfynol fwyaf diflas i unrhyw gystadleuaeth erioed (ac eithrio Lloegr v Awstralia 2003)... (brrrrrrrrrr) Sgarlets v Munster! Cadwch lygad am y chwarae chwimwth, y pasio medrus a'r ceisiau diri, gyfeillion. Achos bydd hi'n syndod os gwelwch chi nhw.