28.1.05

Agwedd cefnogwyr pel-droed

Unwaith eto, mae agwedd cefnogwr pel-droed wedi llwyddo i fy ngwylltio i (wele). Achos ei gwyn? Y ffaith bod arwyddion yn cael eu gosod yn dangos i bobl ble mae'r clwb rygbi mewn amryw lefydd yng Ngwynedd!

Pobl fel hyn sy'n fy nhroi i fwyfwy yn erbyn pel-droed a'r agwedd 'shgwlwch-arna-i' sy'n rhemp yn y gamp. Beth sydd o'i le gyda'r ddwy gamp yn bodoli ochr yn ochr yng Nghymru, gwedwch?

1 sylw:

Bu Blogger Gary mor hy â thraethu...

Dwi'n credu mae'r linnell arwyddocaol yn dy feirniadaeth ydi:
"Beth sydd o'i le gyda'r ddwy gamp yn bodoli ochr yn ochr yng Nghymru, gwedwch?"
Wel dyna'r union bwynt sydd yn cael ei godi - pam fo'r clybiau rygbi'n cael arwyddion neis, neis i ddangos y ffordd i'w meysydd ond ddim y clybiau pêl-droed.

Coelia di fi, y rheswm mae cefnogwyr pêl-droed yn casau rygbi yw agwedd y wasg a chyrff cyhoeddus fel hyn tuag at bêl-droed.

Wyt ti eisiau enghraifft arall? Trwy'r wythnos diwethaf cyn y Cyngerdd Tsunami yng Nghaerdydd, roedd y BBC trwy Brydain yn ogystal â BBC Cymru a BBC Wales yn mynnu dweud pethau fel "The rugby stadium has been transformed" ... rugby stadium ??

4:24 pm  

Post a Comment

<< 'Sha thre, 'chan