25.1.05

Charvis a Williams mas

Dyna mae'r BBC yn ei ddweud... Ymddengys mai Richie Pugh fydd y dewis erbyn hyn. Fe weles i fe'n chwarae'n erbyn y Gleision (ac yn erbyn Martyn Williams) Ddydd Calan, ac fe gafodd e argraff dda arna' i gyda'i daclo cadarn a'i gyflymdra (fe sgoriodd un o unig geisiau'r gêm), ond mae angen tipyn o brofiad yn erbyn rheng ôl Lloegr (Moody, Worsley a Hazell) sydd bellach wedi ennill y profiad angenrheidiol ar lefel ryngwladol. Rwy'n poeni'n fawr o golli eu dawn amlwg.

2 sylw:

Bu Blogger Siôn mor hy â thraethu...

Wi di clywed son fod Charvis yn holliach a fod Ruddock yn chware mind-games gyda'r Saeson trwy esgus fod e wedi brifo.
Plei-ing ddem at ddêr own geim init...

9:41 am  
Bu Blogger cridlyn mor hy â thraethu...

Y conspiracy theorists 'na ar Gwlad! wrthi 'to? Newydd fod yn darllen eu bod nhw'n meddwl mai tric yw hyn i rwystro Rob Andrew rhag chwarae Charvis ar y penwythnos yw hyn. Hynod gyfrwys a phroffesiynol os yw hynny'n wir.

Mae Charvis yn hollbwysig i ni ar hyn o bryd. Hanfodol, bron.

10:03 am  

Post a Comment

<< 'Sha thre, 'chan