27.6.05

Shambls

Shamlbs-di-shambls-di-shambls. Fel y rhagwelwyd fan hyn a chan y rhan fwyaf o gefnogwyr rygbi Cymru (y rhai sy'n deall rygbi), roedd y Llewod yn gachu rwtsh (hmmm, rhaid osgoi Gogs er mwyn chwynnu ymadroddion fel hyn mas o'n iaith naturiol i). Sai'n gweld gormod o fai ar y cefnwyr (heblaw am Robinson a Greenwood), achos roedd y platfform gafodd ei osod gan y blaenwyr yn warthus. Doedd dim math o uned 'na, a po leiaf weda' i am y llinell, gorau oll. Falle bod cefnogwyr Cymru a'u barn y dylai Byrne fod wedi cael ei ddewis yn anghywir wedi'r cwbwl. Ond doedd Pop-up Pirate ddim gwell pan ddaeth e 'mlaen.

Felly ble all Wdwrd fynd o fan hyn? Wel, gyda B'OD a Shanks mas, mae'n rhaid dewis Alfie'n rhif 13. Dyw e heb gael hanner digon o gyfle yn y safle ar hyd ei yrfa, sy'n wirion o ystyried mai dyma ei safle gorau. Digon posib mai pan chwaraeodd e i Benybont oedd y tro dwetha iddo fe fod yn y safle. Ac wrth gwrs, rhaid cael Henson mewn gyda fe. Hefyd, fydden i'n cadw Stephen Jones, er nad oes llawer i ddewis rhyngddo fe a Wilkinson, am y ffaith syml ei fod e'n gwbod shwt mae chwarae gyda Henson a rhannu'r cyfrifoldeb am y chwarae creadigol.

Felly dyma ddylai'r tim fod (gyda'r dewisiadau wnaiff Wdwrd mewn cromfachau): Lewsey, Murphy (Horgan), Thomas, Henson, Shane (Hickie), Wellies (Wilkinson), Peel, Jenkins, Bulloch (Thompson), O'Callaghan (Kay), O'Connell, Easterby, Jones, Williams (Moody).

Dyw pethe ddim yn argoeli'n dda ar gyfer yr ail brawf. Er, roedd gwen fach ar 'y ngwyneb i fore dydd Sadwrn, yn falch dros Henry a Hansen a'u llwyddiant. Gwd show, bois.