*****************!
Gwell peidio sgwennu gormod rhag ofn cael trawiad, ond afraid dweud mai ffolineb llwyr i'w dewis carfan gyda chwaraewyr sydd naill ai ddim yn chwarae'n dda neu sydd wedi gweld dyddiau gwell (gweler Robinson, O'Driscoll, Wilkinson, Hill, Back, Rowntree, Thompson, Dawson, Greenwood, Horgan). Mae Woodworm yn prysur fwydo ceirch i'w geffylau gwedd, tra'n gadael y ceffylau pedigri'n tindroi yn y stablau.
(O ie, Robinson, Lewsey, O'Driscoll, Wilkinson, Alfie, Wellies, Peel, Jenkins, Byrne, White, Kay, O'Connell, Hill, Corry, Back yw'r tim, os nad oeddech chi'n gwybod, gyda Rowntree, Thompson, R Jones, Dawson, Greenwood a Horgan ar y fainc. Yup, cach llwyr, heblaw am y Cymry).
0 sylw:
Post a Comment
<< 'Sha thre, 'chan