Tocynnau tymor Gleision Caerdydd
Mae tocynnau tymor Gleision Caerdydd bellach ar werth. Bydd yn costio £140 i ryw ffwl sefyll ar y teras a gwylio'r embaras llwyr yma i rygbi Cymru. Nid fi fydd hwnnw, wrth gwrs, gan fod ffrindiau gyda fi sy'n byw ar Westgate Street, ond byddan nhw'n symud flwyddyn nesaf, felly falle bryd 'ny. Ddim drwy unrhyw gariad at y Gleision, wrth gwrs, ond dyma'r unig ffordd ymarferol o weld rygbi byw
Gwerth gwell am arian 'leni, serch hynny. Mwy o gemau a Mike Phillips a Xavier Rush gyda'i gilydd wrth fon y sgrym.
1 sylw:
Roeddwn i'n meddwl mai cefnogwr Y Dreigiau oeddet ti ... pam na brynni di docyn tymor ar gyfer Rodney Parade?
Post a Comment
<< 'Sha thre, 'chan