16.6.05

Tim y Llewod ar gyfer y gemau prawf

15 J Lewsey - rhaid ei ddewis. Rhedwr twyllodrus a chadernid amddiffynol
14 Alfie - mae e'n cynnig digon yn amddiffynol ac yn yr ymosod i haeddu'i le
13 O'Driscoll - am y ffaith syml na allwch chi beidio â dewis y capten
12 Henson - ddim ar ei orau ond unwaith y bydd, fe allai fod yn arwr
11 Shanklin - heb roi cam o'i le, ac yn llawer gwell na Robinson, sydd heb wneud unrhyw beth ers Cwpan y Byd
10 Jones - Wilkinson yn wan yn erbyn Wellington ac mae llawer gan Wellies i'w brofi o hyd
9 Peel - mae e ben ac ysgwyddau uwch pawb ar hyn o bryd
1 Jenkins - gweler Peel
2 Byrne - dewis ceidwadol braidd, ond mae'n well na chael chwaraewr cwbl annibynadwy fel Thompson
3 White - ddim â digon o bresenoldeb o amgylch y cae, ond y gorau o giwed wael
4 O'Callaghan - am y ffaith ei fod yn neidio ym mlaen y llinell a'i fod yn dda o amgylch y cae
5 O'Connell - mae'n arweinydd cryf ac yn chwaraewyr medrus
6 Hill - heb fod ar ei orau ond mae'n dal i fod yn chwaraewr cryf iawn a deallus
8 Corry - dyw Owen heb ddisgleirio, felly rhaid dewis Corry, ond efallai y bydd R Jones yn synnu pobl â'i ddawn
7 Williams - ochr yn ochr, yn yr un fath o amgylchiadau, mae Williams yn well chwaraewr na Back