13.6.05

Martyn Williams, Steve Thompson a Marty Holah

Wel, fel y'ch chi'n gwbod, fe gollodd y Llewod ddydd Sadwrn, ond yn ol cefnogwyr a sylwebwyr Lloegr, bai Martyn Williams oedd hyn wrth gwrs. Hynod ddigri', na, infuriating, oedd clywed Stuart 'Fat Boy' Barnes yn cwyno, ar ol i Thompson fethu ei neidiwr dair gwaith yn olynol heb unrhyw sylw ganddo, am Williams yn cael ei wthio'n ol yn y dacl gan Marty Holah.

He'll not be test no.7 with play like that.

Ond wrth gwrs, yn eu tyb nhw, bydd Thompson yn cadw gafael ar ei grys er gwaetha'...

a) iddo fethu ei neidiwr sawl gwaith; ac

b) mai hanner y broblem gyda gwaith Martyn Williams oedd y diffyg cefnogaeth gan chwaraewyr fel Thompson, oedd yn gorlifo canol cae yn lle bod yng nghanol y frwydr.

Gweler dadansoddiad Marty Holah, rhif 7 y Maoris (sydd heb ei ddewis ar gyfer carfan y Crysau Duon), sydd yn amddiffyn Williams i raddau helaeth, yn y New Zealand Herald.

Gol - dyma fwy o sylwadau Holah yn y Mule, a hefyd *shock horror* sylwadau call gan Barnes yn y Times (mae'n rhaid ei fod e'n cael ei dalu'n go helaeth ar Sky i beidio â gwneud synnwyr), yn ategu'r hyn sy'n cael ei ddweud am y diffyg niferoedd yn y sgarmesi.