2.6.05

Simon Shaw

Gyda Mal O'Kelly'n mynd gartre'n gynnar, hoffwn longyfarch y pedwerydd blaenwr ar ddeg o Loegr i gael yr alwad i fod yn aelod o garfan y Llewod yn Seland Newydd. Ie, dyna ni, mae gan y wlad ddaeth yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 14 o flaenwyr, tra mai dim ond 3 sydd gan y wlad enillodd y Gamp Lawn. Ond s'dim rhagfarn, cofiwch, achos bod Woodward yn dweud hynny.

Ac mae gan Shaw brofiad o chwarae yn Seland Newydd cofiwch. Ie, profiad o gael ei hel o'r cae...